Gwariant ysgolion fesul disgybl yng Nghymru a Lloegr: Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

Cyhoeddwyd 12/07/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

Wrth ymateb i gyhoeddiad dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) heddiw o wariant ysgolion yng Nghymru a Lloegr, dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad, Lynne Neagle AC:

”Dengys dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS) er bod y bwlch ariannu ysgolion rhwng Cymru a Lloegr yn ymddangos fel pe bai wedi culhau, ac nad oedd mor eang ag y tybiwyd, gwelwyd lleihad o ran gwariant fesul disgybl yn y ddwy wlad. Rydym yn bryderus i weld casgliad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod gwariant fesul disgybl yng Nghymru wedi lleihau tua 5 y cant ar ôl ystyried chwyddiant. Mae ariannu ysgolion yn fater sy’n codi’n rheolaidd yn ein gwaith craffu. O ganlyniad, cytunwyd fis diwethaf y byddem fel Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad i ariannu ysgolion. Byddwn yn dechrau ein hymgynghoriad cyhoeddus mewn cysylltiad â’r ymchwiliad yn hydref 2018, yn y gobaith y gallwn lywio trafodaethau ar y gyllideb ddrafft y flwyddyn nesaf. Bydd dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn darparu ffynhonnell wybodaeth bwysig i ni.”