Gwasanaeth iechyd meddwl yn gynharach? Eich cyfle i ddweud eich dweud am gyfraith newydd arfaethedig

Cyhoeddwyd 31/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwasanaeth iechyd meddwl yn gynharach? Eich cyfle i ddweud eich dweud am gyfraith newydd arfaethedig

31 Mawrth 2010

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cyflwyno cyfraith newydd i bobl allu cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl yn gynharach yng Nghymru.

Bydd Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar gynghorau a byrddau iechyd lleol i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl yn gynharach na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd.

Bydd hefyd yn golygu gwell gwasanaethau eiriolaeth (cael gafael ar gyngor a gwybodaeth) i’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd meddwl.

Nawr, bydd Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar y Mesur arfaethedig ac mae am glywed barn cynifer o bobl â phosibl.  

Dywedodd Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor, “Dylai’r rhai sy’n dioddef problemau iechyd meddwl gael yr un gwasanaeth ag unrhyw un arall sy’n defnyddio’r gwasanaeth iechyd.”

“Ein gwaith ni, fel Pwyllgor, yw edrych ar y ddeddfwriaeth hon ac ystyried a all gyflawni’r hyn a fwriadwyd ganddi.

“Dyna pam rydym am glywed gan gynifer o grwpiau ac unigolion â phosibl er mwyn cyfrannu at y broses hon fel ein bod yn cael y ddeddfwriaeth orau sy’n bosibl.”

I ddweud eich dweud, anfonwch eich cyflwyniad i legislationoffice@wales.gsi.gov.uk neu ysgrifennwch at Carys Jones, Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Ty Hywel, Bae Caerdydd CF99 1NA.

Neu cofrestrwch eich barn ar ein safleoedd rhwydweithio cymdeithasol yn:

Facebook

Twitter

Rhaid i’r holl gyflwyniadau ddod i law erbyn 14 Mai 2010.

Mesur Arfaethedig Iechyd Meddwl (Cymru)