Gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fethu cyflawni dros blant a phobl ifanc

Cyhoeddwyd 24/11/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fethu cyflawni dros blant a phobl ifanc

24 Tachwedd 2009

Mae Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi mynegi ei siom yn safon y gofal ar gyfer plant a phobl ifanc gan y gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Daw’r datganiad mewn ymateb i adroddiad ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Estyn a’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol a ryddhawyd heddiw (24 Tachwedd).

Dywedodd Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor: Rwy’n siomedig o glywed bod gwasanaethau iechyd meddwl yn parhau i fethu cyflawni dros lawer o blant a phobl ifanc, er gwaethaf rhai gwelliannau diweddar. Mae’n amlwg, o ddarllen yr adroddiad hwn, bod angen cymryd camau brys i ddod â’r gwasanaethau i fyny i’r safon y mae pobl yn ei haeddu.”

Mae’r ffordd y mae gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu cynllunio a’u darparu wedi cael ei amlygu fel problem sy’n atal rhagor o welliannau. Rwy’n gobeithio y bydd y Byrddau Iechyd newydd, yr awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad yn cydweithio i fynd i’r afael â’r argymhellion ymarferol a phellgyrhaeddol yn yr adroddiad hwn.”

Mae angen i Lywodraeth y Cynulliad hefyd ddatblygu cynllun gweithredu o fewn chwe mis er mwyn canfod sut y bydd ansawdd ac argaeledd gwasanaethau iechyd meddwl yn gwella.”

Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus