Gweinidog yn rhoi ymateb i’r Senedd Ieuenctid

Cyhoeddwyd 25/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/10/2019

Yn eu hail sesiwn lawn yn y Senedd heddiw, clywodd aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ymateb y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams i'w hadroddiad ar Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm. 

Cyhoeddodd Senedd Ieuenctid Cymru ei adroddiad yn gynharach yn yr wythnos, sef y darn mawr cyntaf o waith, ar ôl ymgynghori â dros 2,500 o bobl ifanc, rhieni ac athrawon ledled Cymru. Canfu anghysondeb enfawr yn y ffordd y mae sgiliau bywyd yn cael eu haddysgu ar hyn o bryd gydag aelodau yn lleisio pryderon am adael yr ysgol fel "robotiaid A* heb unrhyw wybodaeth am y byd go iawn". 

Wrth wynebu aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn y Siambr heddiw, nododd y Gweinidog brif argymhellion eu hadroddiad gan gynnwys yr alwad i Lywodraethu Cymru wneud mwy i gefnogi athrawon ac i weithio gyda Senedd Ieuenctid Cymru i greu adnoddau i gefnogi dysgu sgiliau bywyd. 

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams; 

"Mae'n gwbl amlwg i mi o'ch adroddiad bod angen i ni, fel llywodraeth, wneud mwy i gefnogi ein hathrawon - mae angen i ni fuddsoddi yn eu datblygiad i sicrhau bod ganddyn nhw'r adnoddau cywir i ddarparu addysg sgiliau bywyd yn effeithiol. 

"O fewn y llywodraeth, rydym ar hyn o bryd yn trafod cyllidebau'r dyfodol. Gallaf eich sicrhau heddiw y bydd buddsoddi mewn dysgu proffesiynol ar gyfer ein gweithlu yn flaenoriaeth i mi ac rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed yn eich adroddiad." 

Fe wnaeth y Gweinidog hefyd gydnabod neges glir yr aelodau yn yr adroddiad sy'n dweud nad ydyn nhw eisiau gadael yr ysgol fel "robotiaid A* heb unrhyw wybodaeth am y byd go iawn" a dadleuodd y byddai newidiadau i'r system addysg, gan gynnwys y cwricwlwm newydd sy'n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru, yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r pryderon hynny. 

Clywodd yr aelodau hefyd gan y Comisiynydd Plant, Sally Holland, a Chadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle AC wrth iddyn nhw hefyd ymateb i'w hadroddiad. 

Yn ystod y sesiwn rhoddodd aelodau sy'n ffurfio'r pwyllgorau i edrych ar flaenoriaethau eraill y Senedd Ieuenctid, sef Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc a Sbwriel a Gwastraff Plastig, ddiweddariadau ar eu gwaith a fydd yn parhau dros yr ychydig fisoedd nesaf. 

Cafodd yr aelodau gyfle hefyd, am y tro cyntaf erioed, i wneud datganiadau 90 eiliad ar faterion sydd o bwys iddyn nhw - gan adlewyrchu sesiynau llawn Aelodau'r Cynulliad. 

Daeth Ifan Price, Aelod SIC dros Dwyfor Meirionydd, y sesiwn lawn i ben gyda'i ddatganiad 90 eiliad oedd yn dymuno'n dda i dîm Rygbi Cymru cyn eu gêm yng Nghwpan y Byd yn erbyn De Affrica ddydd Sul.

 

Mae'r sesiwn lawn ar gael ar Senedd TV