Gwleidyddion o Giwba’n ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 12/11/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwleidyddion o Giwba’n ymweld â Chynulliad Cenedlaethol Cymru

Bydd y Dirprwy Lywydd, Rosemary Butler AC, a chynrychiolwyr o grwpiau gwleidyddol y Cynulliad yn cyfarfod â dirprwyaeth o Gynulliad Cenedlaethol Ciwba yn y Senedd ddydd Mercher 14 Tachwedd.

Mae’r ddirprwyaeth sy’n cael ei harwain gan Mr Jaime Crombet Hernandez-Baquero yn ymweld â’r DU ar wahoddiad Grwp Prydeinig yr Undeb Rhyngseneddol.                     

Mae eu rhaglen yn y DU yn cynnwys cyfarfod â gwleidyddion yn San Steffan, Caerdydd a Chaeredin.

Dywedodd y Dirprwy Lywydd Rosemary Butler “Rwy’n falch bod y ddirprwyaeth hon yn ymweld â’r Cynulliad.  Mae llawer o bobl yng Nghymru’n ymddiddori yng Nghiwba.  Mae’r ymweliad hwn yn rhoi cyfle i drafod yn uniongyrchol ac i gyfnewid barn.  Mae wedi bod yn bleser i’r Cynulliad gael cynorthwyo’r Undeb Rhyngseneddol i gyfrannu at ei raglenni ar gyfer ymwelwyr seneddol â’r DU.”

Nodyn i’r golygyddion:

Mae’r ymweliad â’r Cynulliad Cenedlaethol ar gais Grwp Prydeinig yr Undeb Rhyngseneddol a chaiff ei noddi ganddynt.

Sefydliad byd-eang o seneddwyr sy’n gweithio tuag at heddwch a chydweithio ymysg pobloedd a sefydlu sefydliadau cynrychioliadol cadarn yw’r Undeb Ryng-Seneddol.  

Mae’r Grwp Prydeinig, fel grwpiau cenedlaethol eraill yn y rhan fwyaf o wledydd, yn cynnwys aelodau o bob plaid o Ddau Dy’r Senedd.  Mae aelodaeth yn agored i bawb drwy danysgrifiad.

Mwy o wybodaeth am Grwp Prydeinig yr Undeb Rhyngseneddol