Gwneud Rosemary Butler AC yn Fonesig yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines yn ystod Calan 2014

Cyhoeddwyd 02/01/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwneud Rosemary Butler AC yn Fonesig yn Rhestr Anrhydeddau'r Frenhines yn ystod Calan 2014

2 Ionawr 2014

Mae Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Rosemary Butler AC, wedi’i gwneud yn Fonesig yn Rhestr Anrhydeddau'r Calan 2014.

Cafodd yr anrhydedd am ei Gwasanaeth Gwleidyddol a Chyhoeddus i Fenywod a Democratiaeth.

"Rwyf wrth fy modd, ond hefyd wedi fy syfrdanu," dywedodd y Llywydd.

"Nid fy ngwaith i yn unig yw hwn a hoffwn ddiolch i'r holl bobl yr wyf wedi gweithio ochr yn ochr â hwy dros nifer o flynyddoedd.

"Rwy'n awyddus iawn i annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus ac rwyf wedi gweithio gyda rhai pobl anhygoel sy'n rhannu'r uchelgais hwn.

"Yn ogystal ag yn anrhydedd i mi, mae’r gydnabyddiaeth hon yn glod hefyd i’r unigolion hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino heb unrhyw dâl neu wobr ychwanegol.

"Mae'r anrhydedd hwn yn deyrnged i fy nheulu hefyd, sydd wedi fy nghefnogi a’m hannog dros y blynyddoedd. Ni allwn fod wedi gwneud y gwaith hwn hebddynt."

Mae'r Llywydd wedi ymroi i fywyd cyhoeddus dros y deugain mlynedd diwethaf, gan gynnwys drwy gyflawni rôl yr Aelod Cynulliad cyntaf dros Orllewin Casnewydd ers 1999.  Mae hefyd wedi gwasanaethu Cymru fel y Gweinidog dros Addysg cyn-16 a Phlant, Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad, ac fel Llywydd.

Yn anad dim, mae wedi gweithio i annog mwy o fenywod i gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus.  Mae ei gwaith yn y maes hwnnw wedi cynnwys sefydlu Fforwm Menywod Casnewydd, sy'n darparu bwrsari i helpu menywod i gael yr hyder i gyflawni eu nodau.  Dros y degawd diwethaf, mae hefyd wedi cynnal digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar gyfer dros 200 o fenywod, gan hybu brwydrau a llwyddiannau menywod ar raddfa fyd-eang.

Ers cael ei hethol yn Llywydd yn 2011 mae wedi rhoi’r rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu yn gadarn ar frig yr agenda wleidyddol drwy ei hymgyrch "Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus" #POWiPL.

Yn sgîl yr ymgyrch honno, enwyd y Llywydd yn Aelod y flwyddyn ymysg y Seneddau a Chynulliadau Datganoledig yng ngwobrau blynyddol Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus, a gynhaliwyd yn Llundain.

"Mae Rosemary wedi llwyddo i sicrhau bod pobl o bob rhan o’r gymuned yng Nghymru yn ymddiried ynddi, yn ei pharchu ac yn ei hoffi, ac mae gennyf atgofion melys o’r dyddiau y buom yn cydweithio yng Nghasnewydd," meddai Dr Rowan Williams, y Gwir Barchedig a'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Williams Ystumllwynarth, Meistr Coleg Magdalen, Caergrawnt, a chyn Archesgob Caergaint.

"Mae hi'n llawn haeddu cydnabyddiaeth genedlaethol fel gwleidydd moesegol, sydd wedi ei gwreiddio yn y gymuned, ac mae angen rhagor o bobl debyg iddi, ac mae'n dda gweld bod Cymru yn dal i feithrin pobl fel hyn a bod y sefydliad Prydeinig ehangach hefyd yn cydnabod hyn. Rwyf wrth fy modd gyda'r newyddion hyn."

O dan arweiniad pendant Mrs Butler, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi dod yn sefydliad o fri o ran hyrwyddo cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth, gan gynnwys ennill cydnabyddiaeth genedlaethol mewn sawl maes a chael ei enwi fel un o’r sefydliadau gorau yn y DU i weithio ynddo.

Mae’r Llywydd wedi hyrwyddo polisïau sy’n mynd i'r afael â'r rhwystrau y gall menywod eu hwynebu, gan gynnwys urddas yn y gwaith, cam-drin domestig, a pholisïau ailbennu rhywedd.

"Mae’r Llywydd yn llwyr haeddu'r anrhydedd hwn ac rwy'n falch iawn drosti, a dros y Cynulliad," dywedodd Clerc y Cynulliad Cenedlaethol, Claire Clancy.

"Mae'n deyrnged i’r ymroddiad a’r brwdfrydedd y mae wedi eu buddsoddi dros ei chyfnod hir o wasanaeth i fywyd cyhoeddus yng Nghymru a’i hymdrechion eithriadol i ddangos y gall y menywod chwarae rhan hanfodol mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

"Mae ei hymroddiad i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal merched rhag chwarae rhan mewn bywyd cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

"Rwy'n falch o weithio gyda'r Llywydd ar faterion sydd wir yn hyrwyddo amrywiaeth a democratiaeth yng Nghymru."

Mae Rosemary Butler wedi arwain prosiect i holi barn menywod dros Gymru er mwyn nodi'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu, a lansio cyfres o fentrau arloesol, gan gynnwys darlithoedd, adnoddau ar-lein a chyfleoedd mentora, y mae pob un ohonynt wedi’u llunio a’u sefydlu gan Rosemary ei hun.  Mae hefyd wedi herio arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru i gymryd camau cyn yr etholiad nesaf i gynnal y cydbwysedd rhwng y rhywiau a gyflawnwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gorffennol.

Dywedodd yr Athro Laura McAllister, Athro Llywodraethiant yn Ysgol Rheolaeth Prifysgol Lerpwl a Chadeirydd Chwaraeon Cymru: "Rwyf wrth fy modd ac yn falch iawn o glywed bod Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, wedi cael ei hanrhydeddu yn Rhestr Anrhydeddau’r Calan 2014.

"Ni allaf feddwl am unrhyw un sy’n fwy haeddiannol o'r fath anrhydedd.  Mae Rosemary wedi gweithio'n ddiflino yn ei rôl fel Cynghorydd lleol, Aelod Cynulliad ac yn fwy diweddar fel Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hyrwyddo menywod a chydraddoldeb.  Mae ei gwaith arloesol diweddar i hyrwyddo a chefnogi menywod mewn bywyd cyhoeddus wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi ac i lawer o fenywod eraill ac rydym yn dechrau gweld gwelliannau sylweddol yn nifer y menywod sydd a’u bryd ar fod yn benderfynwyr y dyfodol.  Rwy’n estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i Rosemary, ei theulu a’i chydweithwyr."

Mae ei chydweithwyr, a menywod y mae wedi dylanwadu arnynt, yn gwerthfawrogi ei gwaith caled a’i hymroddiad yn fawr.  Mae ei llwyddiannau wedi ennyn edmygedd a pharch yng Nghymru a thu hwnt.  Mae Rosemary wedi ymdrechu’n gadarn dros bedwar degawd i gael effaith fuddiol a pharhaol ar ragolygon a bywydau menywod, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.