Gwylio democratiaeth yn fyw! Gosod pod newydd yn y Senedd

Cyhoeddwyd 28/01/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Gwylio democratiaeth yn fyw! Gosod pod newydd yn y Senedd

28.1.10

Gosodwyd pod newydd yn y Senedd gan alluogi ymwelwyr i dderbyn darllediad byw o sefydliadau gwleidyddol cenedlaethol y DU ac Ewrop pryd bynnag y mynnant.

Mae’r pod yn rhan o wasanaeth ‘Democratiaeth fyw’ y BBC a lansiwyd ym mis Tachwedd.

Mae’r gwasanaeth yn cyfuno darllediadau o drafodion o sefydliadau gwleidyddol y DU a Senedd Ewrop.

Mae’n adeiladu ar y ddarpariaeth a oedd ar gael eisoes ar ffurf ffrydiau fideo, canllawiau a bywgraffiadau.   

Bydd y pod newydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr gael mynediad uniongyrchol i drafodion y Senedd a sefydliadau eraill.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae gwasanaeth ‘Democratiaeth fyw’ y BBC yn arf effeithiol sy’n galluogi’r cyhoedd i weld, gyda’u llygaid eu hunain, gwleidyddiaeth ar waith yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac ar draws y sbectrwm gwleidyddol yn y DU a thu hwnt.

“Mae ehangu cyfranogiad mewn democratiaeth yn flaenoriaeth barhaus, a thrwy cynnig cyfle i’r cyhoedd weld yr hyn mae’r cynrychiolwyr etholedig yn ei wneud, mae’r cyfleoedd i’r cyhoedd dderbyn mwy o wybodaeth yn well nag erioed”.

Bydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei sgrin ei hun ar dudalen gartref y wefan – ynghyd â deddfwrfeydd datganoledig eraill y DU  – ac yno, bydd amrywiaeth o fusnes y cyfarfodydd llawn a’r pwyllgorau eraill yn cael eu darlledu yn fyw.

Yn ogystal, bydd y wefan yn cynnig gwybodaeth ar sut y mae sefydliadau yn gweithredu ar draws y DU, a pha bwerau sydd ganddynt. Hefyd, bydd modd chwilio’r wefan er mwyn dod o hyd i gynrychiolwyr penodol neu faterion sydd o ddiddordeb.