'Hawl i Holi' yn Ysgol Brynrefail

Cyhoeddwyd 06/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/02/2015

​Bydd tri o Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymryd rhan mewn digwyddiad 'Hawl i Holi' gyda disgyblion Ysgol Brynrefail, Llanrug ger Caernarfon ddydd Llun 9 Chwefror.

Aled Roberts AC, Alun Ffred Jones AC, Antoinette Sandbach AC ac un o gynghorwyr Cyngor Gwynedd, Sion Wyn Jones, yw'r panelwyr eleni.

Byddant yn ateb cwestiynau disgyblion Blwyddyn 12 Bagloriaeth Cymru ynghylch pynciau sy'n effeithio ar eu bywydau hwy o ddydd i ddydd, gan gynnwys Iechyd, Addysg a'r Iaith Gymraeg.

Dau o ddisgyblion yr ysgol fydd yn cadeirio'r digwyddiad, gan sicrhau nad yw'r panelwyr yn treulio mwy na munud yn ateb eu cwestiynau.  

Trefnwyd y digwyddiad gan Mrs Catrin Jones, athrawes yn yr ysgol, mewn cydweithrediad ag Ann Williams, Swyddog Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn y gogledd.

Dywedodd Catrin Jones o Ysgol Brynrefail:

"Mae digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle i bobl ifanc ymgysylltu a'u cynrychiolwyr a etholwyd yn ddemocrataidd ac i herio gwleidyddion ynghylch yr hyn y gallent ei wneud i wella'r cymunedau y maent yn byw ynddynt.

"Mae'n rhoi cyfle i'r disgyblion drafod â gwleidyddion ac i deimlo'n rhan o'r system ddemocrataidd."

Cynhelir y digwyddiad yn yr ysgol rhwng 11.15 a 12.30.