Hen adeilad eiconig Swyddfeydd Doc Bute yn agor ei ddrysau i argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli

Cyhoeddwyd 02/03/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Hen adeilad eiconig Swyddfeydd Doc Bute yn agor ei ddrysau i argyhoeddi, cynrychioli ac ysbrydoli

2 Mawrth 2010

Ar ôl misoedd o waith adnewyddu sylweddol, bydd adeilad nodedig brics coch y Pierhead, ar ystâd y Cynulliad Cenedlaethol ym Mae Caerdydd, yn agor ei ddrysau heddiw (1 Mawrth), a hynny fel atyniad i ymwelwyr a chanolfan unigryw i gynnal digwyddiadau.

Mae’r Pierhead wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth nifer o arbenigwyr o’r byd atyniadau. Y nod oedd ymateb i’r diddordeb brwd ymysg y cyhoedd yn hanes yr adeilad, gan greu lleoliad i gynnal dadleuon cyhoeddus a digwyddiadau a noddir gan y Cynulliad ar yr un pryd.

Llwyddwyd i gyflawni hyn drwy greu nifer o fannau pwrpasol y gellir eu defnyddio mewn sawl ffordd wahanol, gydag arddangosfeydd creadigol sy’n datgelu hanes hynod yr adeilad i ymwelwyr. Fodd bynnag, mae modd defnyddio’r ystafelloedd hefyd i gynnal digwyddiadau a noddir gan y Cynulliad, tra gall cymunedau a sefydliadau eu defnyddio i dynnu sylw at faterion sydd o bwys iddynt hwy.

Mae un o’r ystafelloedd yn agor ffenestr ar y gorffennol, gydag arddangosfa sain a llun yn rhoi teyrnged i arwyr Cymru sydd wedi cyfrannu at hunaniaeth ddiwylliannol a gwleidyddol y wlad.

Mae gan arddangosfa arall arteffactau sy’n cynrychioli cerrig milltir yn hanes Cymru, gan gynnwys y binacl gwreiddiol o long Scott o’r Antarctig, y Terra Nova.

Gall ymwelwyr hefyd wrando ar hanesion a phrofiadau unigolion o Fae Caerdydd, gan gynnwys Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru, a Neil Sinclair, yr hanesydd a’r awdur a anwyd yn Tiger Bay.

Ystafell arall ac ynddi arddangosfa fawr a gofod i gynnal digwyddiadau yw’r Brif Neuadd. Yno y mae’r sêff lle dywedir i siec gyntaf y byd am filiwn o bunnoedd gael ei chadw ar ôl iddi gael ei llofnodi yn y Gyfnewidfa Lo gerllaw.

Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru: “Mae adnewyddu’r Pierhead wedi bod yn brosiect cyffrous yng nghalendr 10 mlynedd y Cynulliad, ac mae’n braf gweld y cyfan wedi’i orffen.

“Mae Bae Caerdydd wedi chwarae rhan flaenllaw yn hunaniaeth economaidd a hunaniaeth sifil Cymru ers bron i 200 mlynedd, o’i gyfnod yn un o borthladdoedd mwyaf y byd ar anterth y diwydiant glo i’r cyfnod presennol lle mae’n ganolfan lywodraethol i’r Gymru ddatganoledig.

“Mae’r Pierhead wedi bod yn nodwedd ganolog yn nhirlun Bae Caerdydd, gan fod yn dyst i newidiadau aruthrol dros y ganrif ddiwethaf.

"Bydd agor yr adeilad hefyd yn cyflawn un o'n hamcanion pwysicaf, sef annog rhagor o bobl i gymryd rhan yn y broses wleidyddol yng Nghymru. Bydd yr adeilad yn dod â phobl yn nes at y penderfyniadau a wneir dros y ffordd yn y Senedd, drwy roi cyfle iddynt adael eu sylwadau am faterion pwysig y dydd.

“Rydym ni, y gymuned a rhanddeiliaid yn teimlo nad oedd ffordd well o gadw cymeriad yr adeilad na thrwy ddathlu’i harddwch a’i agor yn ganolfan gyhoeddus i ddigwyddiadau a chynadleddau a noddir gan y Cynulliad.

“Rydym wedi llwyddo i wneud hyn, a pha ddydd gwell i agor yr adeilad nag ar 1 Mawrth, Dydd Gwyl Dewi.”

Sesiynau’r Pierhead

Y digwyddiad mawr cyntaf o bwys i'w gynnal yn y Pierhead fydd Sesiynau'r Pierhead, sef gwyl dridiau yn llawn trafodaethau, dadleuon a darlithoedd. Bydd yno siaradwyr gwadd o bob rhan o'r DU, a hynny ar amrywiaeth o bynciau sy'n berthnasol i Gymru a'r byd, fel dyfodol newyddiaduraeth a'r hyn y byddwn yn ei fwyta yn 2050.

Mae’r siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau ar gyfer y Sesiynau yn cynnwys Matt Smith o Dr Who a’r ymgyrchydd amgylcheddol, George Monbiot.