Hen bryd cael deddf ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, medd un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 24/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 24/05/2017

Mae'n hen bryd cael deddf i ailwampio'r gwasanaethau presennol ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Wrth gytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), daeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i'r casgliad y bydd sawl her i'w hwynebu wrth roi'r Bil ar waith. Ni fydd pasio'r ddeddfwriaeth ynddo'i hun yn mynd i'r afael â'r problemau a'r heriau sylfaenol dyfnach o fewn y system bresennol.

Felly, mae'r Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd rhaglen ehangach Llywodraeth Cymru i drawsnewid y system Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy fynd i'r afael â'r heriau hynny a chyflwyno system sy'n gadarn ac sy'n cynnig y cyfleoedd gorau i ddysgwyr sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

"Mae'r Pwyllgor yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ac mae o'r farn ei bod yn hen bryd eu rhoi ar waith," meddai Lynne Neagle AC, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

"Ond ni fydd deddf ynddi'i hunan yn mynd i'r afael â'r problemau a'r heriau sylfaenol dyfnach sy'n gysylltiedig ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Bydd sawl her i'w hwynebu wrth roi'r ddeddf ar waith.

"Dyna pam mae'r Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd rhaglen ehangach Llywodraeth Cymru i drawsnewid y system Anghenion Dysgu Ychwanegol drwy fynd i'r afael â'r heriau hynny.

"Rydym wedi gwneud nifer o argymhellion i gryfhau'r Bil ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi'r sylw priodol iddynt."

Mae'r Pwyllgor wedi gwneud 49 o argymhellion yn ei adroddiad a fydd nawr yn cael ei drafod gan y Cynulliad Cenedlaethol cyn y cynhelir pleidlais i benderfynu a ddylai'r Bil fynd yn ei flaen at gam nesaf y broses ddeddfu.

Y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) (PDF, 4MB)