​​I gynyddu amrywiaeth Llywodraeth Leol mae angen addasu'n gyflym ynghyd a datblygu strategaeth hirdymor

Cyhoeddwyd 04/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/04/2019

Byddai manteisio ar dechnoleg yn un ffordd o gynyddu amrywiaeth ym maes llywodraeth leol, ond y brif her yw newid y farn gyffredinol ynghylch y math o bobl all fod yn aelodau etholedig, yn ôl Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad.

Daeth yn amlwg na fu fawr o gynnydd o ran annog i fwy o fenywod sefyll nac ychwaith o ran pobl o gymunedau du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu drawsrywiol (LGBTQ), na phobl ag anableddau.
Mae'r Pwyllgor o'r farn y gallai defnyddio technoleg fel Skype yn well roi mwy o hyblygrwydd i bobl gymryd rhan yng nghyfarfodydd cynghorau ochr yn ochr â'u chyfrifoldebau gwaith neu gyfrifoldebau eraill. Mae'n argymell y dylai tri awdurdod dreialu'r dechnoleg – un mewn ardal wledig, un yn y cymoedd, ac un mewn ardal drefol.

Byddai llacio cyfyngiadau ynghylch mynychu cyfarfodydd cynghorau a bod yn bresennol i bleidleisio yn lleihau'r pwysau ar gynghorwyr a helpu i ddenu pobl i'r rôl.

Yn y tymor hwy, dylid cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth i wella dealltwriaeth pobl o rôl cynghorwyr, a dylai addysg wleidyddol gael ei dysgu yn yr ysgolion i baratoi pobl ifanc ar gyfer bwrw pleidlais pan fyddant yn cyrraedd oedran pleidleisio.

Cymeradwyodd y Pwyllgor ddull Cyngor Dinas Abertawe lle mae dau aelod yn rhannu swydd yn y cabinet, ac mae o'r farn y dylid ystyried caniatáu i aelodau anweithredol wneud yr un peth, a fyddai'n golygu ethol mwy nag un ymgeisydd i rannu sedd unigol mewn ward.

Hefyd, dylid cynnig mwy o gymorth a hyfforddiant i aelodau etholedig ar gyfer rheoli cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn well. Pryder i'r Pwyllgor oedd dysgu bod agweddau'r cyhoedd tuag at dreuliau a lwfansau, a'r ofn y byddai adlach, yn golygu nad yw cynghorwyr yn gyffredinol yn defnyddio lwfans gofal sy'n caniatáu iddynt hawlio am ofal plant neu gostau gofal eraill.

Mae'r Pwyllgor o'r farn bod angen cymryd camau i sicrhau bod mwy o fenywod yn cael eu hethol yn gynghorwyr, a chan nad yw'r newid hwn yn digwydd yn naturiol, mae wedi argymell y dylid ehangu'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer rhestrau byr menywod yn unig tan 2050.

Yn ôl John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:

"Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn darparu ystod o wasanaethau pwysig i'n cymunedau, gan gynnwys addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Po fwyaf cynrychioliadol ydynt o'r bobl maent yn eu gwasanaethu, gorau i gyd o ran eu gallu i gyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau. 

"Yn anffodus, mae diffyg cynrychiolaeth sylweddol o ran menywod, cymunedau du a lleiafrifoedd ethnig, unigolion ag anableddau, pobl LHDT, pobl ifanc, a phobl sydd ag incwm isel. O'r herwydd, ni chlywir digon am eu profiad, eu safbwyntiau na'u pryderon penodol.

"Yn ddiweddarach eleni, disgwylir i'r Bil Llywodraeth Leol gael ei gyflwyno yn y Cynulliad, a bydd hynny'n gyfle i fynd i'r afael â'r materion hyn.

"Bydd ymchwiliad y pwyllgor hwn yn helpu i lywio'r ddeddfwriaeth honno a bydd yn ein cynorthwyo yn ein gwaith craffu. Rydym wedi ceisio deall pwysigrwydd amrywiaeth, yr hyn sy'n ei rhwystro, ac enghreifftiau o ffyrdd ar gyfer dileu'r rhwystrau hynny."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 22 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • bod Llywodraeth Cymru, yn ei Bil llywodraeth leol arfaethedig, yn cynnwys darpariaethau i lacio'r cyfyngiadau ar bresenoldeb a phleidlais o bell i aelodau yng nghyfarfodydd ffurfiol y cyngor a nodir ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 er mwyn galluogi awdurdodau lleol i dreialu'r defnydd o ddulliau cyfathrebu fideo;
  • bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i nodi tair ardal awdurdod lleol i dreialu'r defnydd o ddulliau cyfathrebu fideo i hwyluso cyfranogiad drwy gymryd rhan yng nghyfarfodydd y cyngor o bell; a
  • bod Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dechrau gweithio ar ymgyrch gadarnhaol i gynyddu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr sy'n sefyll ar gyfer etholiadau llywodraeth leol erbyn haf 2019.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Amrywiaeth ym maes llywodraeth leol' (PDF, 799 KB)