Ieithoedd ar waith - thema’r Cynulliad Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

Cyhoeddwyd 03/08/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Ieithoedd ar waith - thema’r Cynulliad Cenedlaethol yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni

03 Awst 2012

Bydd y ffordd yr ydym yn siarad ieithoedd ac yn eu defnyddio yn bwnc ar yr agenda mewn cyfres o gyfarfodydd a drefnwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mro Morgannwg.

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynnal sesiwn sy’n dwyn y teitl ‘Dysgwyr Cymraeg yn y Gweithle’ ym Mhabell y Cymdeithasau ddydd Llun 6 Awst.

Bydd y digwyddiad, a gaiff ei gadeirio gan Siân Jones, tiwtor Cymraeg y Cynulliad Cenedlaethol, yn cynnwys trafod sut y gellir defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle, ynghyd â chyfraniadau gan Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am y Gymraeg, a Gareth Kiff, tiwtor yn y Ganolfan Cymraeg i Oedolion.

Ddydd Gwener 10 Awst, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal digwyddiad mewn partneriaeth â British Council. Bydd gweithdy cyntaf Ewrop Amliaith yng Nghymru yn cynnwys trafodaeth a dadl ymysg aelodau panel ynghylch manteision dwyieithrwydd a sut y gall y rhain lywio’r ddadl ar ddwyieithrwydd yn Ewrop.

Mae Ewrop Amliaith yn brosiect sy’n anelu at greu rhwydwaith rhyngddisgyblaethol newydd rhwng y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth ac arferion da ym maes amlieithrwydd.

Hefyd, bydd Bws Allgymorth y Cynulliad Cenedlaethol ar y Maes i gynnig toreth o weithgareddau diddorol sy’n anelu at sicrhau bod mwy o bobl yn cymryd rhan yn y broses ddeddfu yng Nghymru.

Un o’r uchafbwyntiau fydd ‘Wal yr Aelodau’, lle y bydd ymwelwyr yn gallu chwilio am eu Haelod Cynulliad ar fap mawr o Gymru a gadael neges am fater o’u dewis hwy.

Gallai fod yn fater lleol neu’n awgrym ynghylch cyfraith newydd i Gymru. Bydd y wybodaeth wedyn yn cael ei hanfon at yr Aelod dan sylw.

Mae’r fenter hon yn ailadrodd thema cystadleuaeth ffotograffiaeth y Cynulliad, sef ‘Democratiaeth ar Waith’, sy’n anelu at annog ffotograffwyr amatur a phroffesiynol i gyflwyno delweddau sy’n adlewyrchu Cymru yn ystod y cyfnod cyffrous hwn yn hanes datganoli yng Nghymru.