Adolygiad annibynnol o wasanaethau dwyieithog y Cynulliad Cenedlaethol yn dechrau.
17 Rhagfyr 2009
Bydd yr adolygiad annibynnol a addawyd o wasanaethau dwyieithog Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dechrau heddiw.
Fis Medi, cafodd Aelodau’r Cynulliad wybod gan y Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, fod Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu cynnal adolygiad annibynnol o’i wasanaethau dwyieithog cyn yr adolygiad ffurfiol o Gynllun Iaith Gymraeg y Cynulliad yn 2010.
Dywedodd y Llywydd ei fod yn credu y byddai gwneud hynny’n cryfhau enw da’r Cynulliad fel sefydliad sy’n esiampl i eraill wrth ddarparu gwasanaethau dwyieithog.
Heddiw, bydd y pedwar aelod a benodwyd i’r panel adolygu annibynnol yn cyfarfod am y tro cyntaf.
Yr aelodau yw Arwel Ellis Owen, Cadeirydd Cyngor Gofal Cymru, y wraig fusnes Susan Balsom, y cyfarwyddwr cwmni Geraint Evans, a’r Athro Colin Baker, Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor.
“Rhaid i ddwyieithrwydd fod yn ganolog ym mywyd Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru,” meddai Arwel Ellis Owen, Cadeirydd y Panel.
“Ond mae’n rhaid cydbwyso hynny’n erbyn yr hyn sy’n bosibl ei gyflawni gyda chyllideb Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
“Fel panel, byddwn yn clywed tystiolaeth ac yn argymell y ffordd orau ymlaen ar gyfer gwasanaethau dwyieithog y Pedwerydd Cynulliad yn 2011.”
Mae cylch gorchwyl y panel fel a ganlyn:
2. Bydd yr adolygwyr yn gwneud y canlynol:
e) ystyried sut y caiff yr holl wasanaethau dwyieithog presennol eu darparu gan Gomisiwn y Cynulliad, gan gynnwys datblygiadau mewn gwasanaethau dwyieithog ers sefydlu’r Comisiwn yn 2007, a’r cynigion a nodwyd yn natganiad ysgrifenedig Comisiwn y Cynulliad ar 30 Medi 2009;
f) ystyried barn ein prif gwsmeriaid am ein gwasanaethau dwyieithog ar hyn o bryd ac yn y dyfodol;
g) ystyried yr angen i sicrhau gwerth am arian, gan fanteisio ar yr arferion rhyngwladol gorau, i wneud argymhellion i'w hystyried gan Gomisiwn y Cynulliad ar ddarparu gwasanaethau dwyieithog y Cynulliad yn y dyfodol, gan gynnwys:
cynnig opsiynau ar gyfer diffinio a chyflawni uchelgais y Cynulliad i fod yn “sefydliad gwirioneddol ddwyieithog”;
sefydlu egwyddorion a ddylai fod yn sail i’r agwedd at wasanaethau dwyieithog;
ystyried pob math o wasanaethau, gan gynnwys er enghraifft, cyfryngau newydd a deunydd archif.
h) argymell ffordd ymlaen i’r Pedwerydd Cynulliad a thu hwnt (bydd cyfnod y Cynllun Iaith Presennol wedi dod i ben erbyn hynny).
Proffil o’r aelodau:
Arwel Ellis Owen
Mae ganddo brofiad helaeth o’r byd cyfathrebu fel cyfarwyddwr a sylfaenydd y cwmni cyfathrebu, Cambrensis. Ef hefyd yw Cadeirydd Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ac Is-lywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn fwyaf diweddar, fe’i penodwyd yn Gadeirydd Cyngor Gofal Cymru.
Susan Balsom
Hi yw Rheolwr Gyfarwyddwr a sylfaenydd FBA Group Ltd, cwmni cysylltiadau cyhoeddus, dylunio a chyhoeddi. Mae Mrs Balsom hefyd yn aelod o Fwrdd Cynnwys Ofcom a Bwrdd Artes Mundi.
Geraint Evans
Ymgynghorwr manwerthu annibynnol a rheolwr gyfarwyddwr Gorsedd Cyf, cwmni eiddo masnachol. Cyn hynny, bu’n rheolwr gyfarwyddwr ar siop fanwerthu Dan Evans (Barry) Ltd. Bu hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol ar Associated Independent Store Ltd, y grwp mwyaf yn y DU nad yw’n ymwneud â phrynu bwyd.
Yr Athro Colin Baker
Ar hyn o bryd, ef yw Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor. Cyn hynny, cafodd yrfa hir fel darlithydd prifysgol ym maes addysg. Bu hefyd yn aelod o gyngor Bwrdd yr Iaith Gymraeg am ddeng mlynedd.