Lamp rhyddid o ddinas yn yr Iseldiroedd yn cael ei harddangos yn y Senedd

Cyhoeddwyd 08/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/09/2014

​​Ym mis Hydref 1944, cafodd dinas s-Hertogenbosch yn yr Iseldiroedd ei rhyddhau o feddiannaeth yr Almaen gan ddynion dewr 53fed Adran Troedfilwyr Cymru.

Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, daethpwyd o hyd i lamp Davy ar faes y frwydr, ger y ddinas, a elwir yn Den Bosch.

Goleuwyd fflam yn y lamp, a enwyd yn "lamp rhyddid", ac mae'n cael ei chadw yn y capel ym mynwent ryfel Prydain yn Uden.

Daeth tîm o seiclwyr, yn cynnwys gweision sifil o s-Hertogenbosch, dan arweiniad Harry van de Bor, â'r lamp i Gaerdydd i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog ar 28 Mehefin.

Cyflwynwyd y lamp i'r Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol, yn y digwyddiad i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog yng Nghaeau Cooper, Caerdydd. Bydd y lamp nawr yn cael ei harddangos yn y Senedd.

Dywedodd y Fonesig Rosemary: "Mae'r fflam o fewn y lamp yn cynrychioli'r aberth a wnaed gan lawer o ddynion ifanc Cymru ar feysydd y gad yng ngogledd Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

"Felly, mae'n deimladwy iawn derbyn y lamp gan dîm o seiclwyr o'r ddinas honno yn yr Iseldiroedd a ryddhawyd gan 53fed Adran Troedfilwyr Cymru.

"Addas yw inni goffáu aberth y dynion ifanc o Gymru drwy arddangos y lamp yn y Senedd."

 

Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd y Cynulliad, gyda Harry van de Bor a'r "lamp rhyddid"