Lansio ymgynghoriad ar ddyfodol Pensiynau Aelodau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 27/09/2012   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Lansio ymgynghoriad ar ddyfodol Pensiynau Aelodau’r Cynulliad

27 Medi 2012

Mae Bwrdd Taliadau annibynnol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi lansio adolygiad pellgyrhaeddol o ddarpariaeth pensiynau Aelodau’r Cynulliad yn y dyfodol.

Mae copi o’r ddogfen ymgynghori wedi’i hatodi. Rhestrir prif nodweddion y cynllun presennol ym Mhennod 2.

Dywedodd Syr George Reid, Cadeirydd y Bwrdd: "Mae newidiadau demograffig ac economaidd dros y blynyddoedd diwethaf wedi newid yr amgylchedd pensiynau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn sylweddol... Nid yw Cynllun Pensiwn presennol Aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru presennol wedi adlewyrchu’r tueddiadau hynny."

Mae prisiad diweddaraf y Cynllun, ym mis Ebrill 2011, yn awgrymu ei fod wedi’i ariannu’n llawn a chanddo elw o £1.6m. Serch hynny, mae cyngor actiwaraidd a ddarparwyd i’r Bwrdd yn awgrymu bod hyn wedi’i gyflawni yn bennaf drwy newid o’r Mynegai Prisiau Manwerthu i’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr. Yn ôl y Bwrdd: "Byddai parhau â’r Cynllun yn ei ffurf bresennol yn debygol o arwain at gostau cynyddol i Gomisiwn y Cynulliad ac i aelodau’r Cynllun."

Ar hyn o bryd mae Aelodau’r Cynulliad yn gwneud cyfraniad o 10% neu 6%, gyda Chomisiwn y Cynulliad yn cyfrannu 2 3.8%.

Mae ymchwil blaenorol gan y Bwrdd yn awgrymu bod Aelodau’r Cynulliad ymhlith yr 1.7% uchaf o enillwyr Cymru. Pan gaiff pensiynau eu cynnwys yn eu ‘taliad llawn’ dywed Mr Reid "ei bod yn amlwg fod hyn ymysg yr uchaf sydd ar gael yng Nghymru."

Mae’n ychwanegu, serch hynny, y bydd y Bwrdd yn dymuno ystyried ffactorau fel ansicrwydd swydd a diffyg datblygiad gyrfa a chodiadau cyflog traddodiadol i Aelodau’r Cynulliad wrth ddod i gytundeb sy’n "deg, cynaliadwy a fforddiadwy."

Nid yw’r Bwrdd wedi rhagfynegi unrhyw ganlyniad i’r broses adolygu hon ond mae wedi nodi tri dewis posibl fel man cychwyn ar gyfer y trafodaethau ar ddyfodol y ddarpariaeth bensiynau i Aelodau, ac mae wedi cytuno i ddiogelu buddion sydd wedi’u cronni hyd at ddyddiad unrhyw newid.

  • Addasu’r cynllun cyflog terfynol presennol, gan ystyried ffactorau megis y gyfradd gronnol, y gyfradd cyfraniadau ac addasu rhai buddion

  • Cynllun Ailbrisio Enillion Cyfatalog Gyrfa (CARE), sy’n ddibynnol ar falans y gyfradd gronnol, lefel y mynegai ac oedran pensiwn

  • Cynllun Balans Arian Parod, gan warantu budd cyfandaliad ond nid pensiwn blynyddol

Bydd y broses ymgynghori yn dechrau gyda chynhadledd yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 11 Hydref ac yn para tan 17 Ionawr 2013. Mae’n fwriad gan y Bwrdd i wneud penderfyniad ar bensiynau Aelodau’r Cynulliad erbyn mis Mawrth 2014.

Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw’r corff annibynnol sy’n gyfrifol am bennu cyflogau, pensiynau a lwfansau Aelodau’r Cynulliad a’u staff. Cafodd y Bwrdd ei sefydlu gan Fesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010, a gafodd Gymeradwyaeth Frenhinol ar 22 Gorffennaf 2010.

Mewn Penderfyniadau blaenorol mae’r Bwrdd wedi rhewi cyflogau Aelodau’r Cynulliad am bedair blynedd o 2011, wedi cytuno ar daliadau i ddeiliaid swyddi ychwanegol, wedi adolygu’u lwfansau a phennu taliadau staff.

Adolygiad o Bensiynau Aelodau’r Cynulliad: Materion a Dewisiadau