Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, unwaith eto, ymhlith y cyflogwyr gorau sy'n ystyriol o deuluoedd yn y DU, yn ôl Working Families, yr elusen sy'n hyrwyddo cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae cyflogwyr mawr a bach ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yn cystadlu bob blwyddyn am le ar restr yr elusen o'r Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio.
Mae'r cyhoeddiad yn cyd-fynd ag ymgyrch Wythnos Genedlaethol Bywyd a Gwaith Working Families, y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei dathlu bob blwyddyn i ddangos ei ymrwymiad a helpu ei weithwyr i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae cyflogwyr yn ateb cwestiynau manwl ac yn cael eu sgorio ar bedwar maes allweddol i greu darlun cynhwysfawr o'u hamgylchedd gwaith hyblyg sy'n ystyriol o deuluoedd.
Dywedodd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Cenedlaethol, y canlynol:
"Mae gwaith yn rhan sylweddol o'n bywydau i gyd ac mae'n anodd cael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith heddiw lle mae'r byd gwaith yn anodd ei ragweld ac yn newid yn gyflym. Rwyf mor falch bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal ei safle fel arweinydd ar gyfer ei arferion ystyriol o deuluoedd.
"Mae'r wobr hon yn cadarnhau cystal lle yw'r Cynulliad i weithio ynddo, ac mae cael cydnabyddiaeth am ein hamgylchedd cadarnhaol a chynhwysol yn adlewyrchiad rhagorol o'r angerdd a'r balchder ar bob lefel i wireddu'r dyhead o fod yn gyflogwr enghreifftiol.
"Byddwn yn parhau i helpu ein gweithwyr i gydbwyso eu bywydau, gan ddatblygu eu gyrfaoedd a darparu gwasanaeth rhagorol i Aelodau'r Cynulliad sy'n cynrychioli pobl Cymru."
Dywedodd Lowri Williams, Uwch-hyrwyddwr Teulu, sef Rhwydwaith Rhieni a Gofalwyr y Cynulliad:
"Mae ein gweithwyr wedi ymrwymo i waith y Cynulliad, ac yn yr un modd mae ganddyn nhw ymrwymiadau y tu allan i'r gwaith hefyd. Maen nhw'n rhieni, gofalwyr, brodyr a chwiorydd, perchnogion anifeiliaid anwes ac aelodau o'u cymuned.
"Mae cynnal cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith yn bwysig i'w hiechyd a'u perthnasoedd, ac mae parch at ei gilydd, gan gydbwyso'r gwaith pwysig y mae ein gweithwyr yn angerddol ynghylch ei gyflawni gyda'u bywydau y tu allan i'r gwaith, sydd yr un mor bwysig, yn golygu y gallwn ddarparu lle gwych i weithio heb gyfaddawdu ar ddarparu gwasanaethau rhagorol.
"Rydym yn ymdrechu i ddarparu'r gefnogaeth i ganiatáu i'n gweithwyr ddod o hyd i'r cydbwysedd perffaith rhwng y gwaith a'r cartref, fel bod gennym bobl sy'n perfformio'n dda ac yn barod i gymryd rhan, sydd wedi ymrwymo i'r gwaith a wnawn."
Dywedodd Jane van Zyl, Prif Weithredwr Working Families, y canlynol:
"Rydym yn falch iawn o gydnabod y 30 sefydliad rhagorol a gyrhaeddodd ein rhestr Cyflogwyr Gorau i Deuluoedd sy'n Gweithio eleni.
"Roedd y cyflogwyr hyn yn rhagori yn ein proses feincnodi drylwyr, gan brofi eu bod yn arwain y ffordd wrth greu gweithleoedd hyblyg sy'n ystyriol o deuluoedd. Yn hollbwysig, maent yn gwneud mwy na rhoi polisïau ar waith - maent yn creu diwylliannau sy'n cefnogi llesiant eu gweithwyr."
https://www.workingfamilies.org.uk/