Llwyfan byd-eang i’r Gymraeg – y Cynulliad yn gweithio gyda Microsoft i lansio cyfleuster cyfieithu peirianyddol Cymraeg

Cyhoeddwyd 21/02/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llwyfan byd-eang i’r Gymraeg – y Cynulliad yn gweithio gyda Microsoft i lansio cyfleuster cyfieithu peirianyddol Cymraeg

21 Chwefror 2014

Heddiw, 21 Chwefror 2014, bydd yr iaith Gymraeg yn ymuno â’r rhestr o ieithoedd sy’n cael eu cynnwys o dan y gwasanaethau cyfieithu a ddarperir gan Microsoft Translator.

Datblygwyd yr adnodd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Microsoft, a bydd y system yn cynnwys offer, gwasanaethau a rhaglenni a fydd ar gael ar gynnyrch a gwasanaethau Microsoft, gan gynnwys Word ac Outlook, ynghyd â rhaglenni Bing Translator ar gyfer Windows, Windows Phone ac ar-lein.

Bydd y system cyfieithu awtomatig a ddatblygwyd o fewn y Microsot Translator Hub yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Famiaith, sef 21 Chwefror, mewn digwyddiad yn y Senedd.

“Mae hwn yn ddiwrnod gwych i’r Gymraeg,” dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg. “Mae’r Gymraeg bellach wedi ennill ei lle o fewn teulu o ieithoedd Microsoft Translator, ac mae hon yn gamp arwyddocaol. Mae hwn yn gam mawr ymlaen o ran gweithio’n ddwyieithog, a gallwn ymfalchïo ein bod wedi gallu cynorthwyo i ddatblygu cyfleuster cyfieithu mor bwerus. Mae gweithio mewn partneriaeth â Microsoft wedi galluogi arbenigwyr technolegol a defnyddwyr y Gymraeg i gydweithio i greu cyfleuster cyfieithu peirianyddol a fydd yn ein cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol, sy’n un o brif ymrwymiadau Comisiwn y Cynulliad. Bydd o gymorth i hwyluso’r ffordd i bobl gyfathrebu ag eraill yn eu dewis iaith, a bydd o gymorth i bobl sy’n dysgu Cymraeg neu sydd am ddeall y Gymraeg yn y gweithle – fodd bynnag, mae’r dechnoleg hon yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, nid yn y gweithle’n unig.”

Mae Microsoft Translator eisoes yn cynnig gwasanaethau ar gyfer nifer o ieithoedd eraill nad ydynt yn cael eu cynnig gan fwyafrif y darparwyr cyfieithu, gan gynnwys Wrdw, Malay a Chatalaneg, yn ogystal ag ieithoedd mwy fel Tsieinëeg, Sbaeneg a Rwseg.

Dywedodd Derrick McCourt, Rheolwr Cyffredinol, y Sector Cyhoeddus, Microsoft UK: “Mae iaith yn rhan allweddol o hunaniaeth unrhyw gymuned – ac mae’r un peth yn wir am y Gymraeg. Mae Microsoft yn falch iawn o weithio gyda’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn gallu ychwanegu’r Gymraeg at yr ieithoedd niferus eraill a gefnogir gan Microsoft Translator.Bydd manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf hon yn cynorthwyo i gryfhau egni a chydlyniant o fewn y gymuned Gymraeg.”

Yn 2012, pasiodd y Cynulliad Cenedlaethol y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol, sy’n gosod dyletswydd statudol ar Gomisiwn y Cynulliad i drin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal.

Dywedodd y Fonesig Rosemary Butler, Llywydd y Cynulliad: “Un o’m prif swyddogaethau i yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu ymgysylltu â gwaith y Cynulliad, boed hynny drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Dyna pam rydym wedi bod yn gweithio gyda Microsoft i greu cyfleuster cyfieithu peirianyddol i gynorthwyo’r Cynulliad i gyflawni ei nodau ei hun o ran yr iaith. Mae hwn yn gyrhaeddiad arbennig mewn cyfnod byr. Rwy’n falch iawn y bydd Aelodau’r Cynulliad a staff y Cynulliad yn gallu’i ddefnyddio, yn ogystal â defnyddwyr ledled y byd!”

Mae cyfieithu peirianyddol yn rhan allweddol o ymrwymiad y Cynulliad i fod yn sefydliad cwbl ddwyieithog lle y gellir cynnal busnes a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.

Bydd yn:

  • darparu cyfleuster cyfieithu i staff y Cynulliad, Aelodau’r Cynulliad a staff cymorth yr Aelodau i hwyluso cyfathrebu ac arferion gwaith yn eu dewis iaith.

  • adnodd dysgu i bawb sydd am wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r Gymraeg yn y gweithle;

  • caniatáu i’r Cynulliad rannu ei brofiad o ddarparu gwasanaethau dwyieithog â sefydliadau eraill yng Nghymru, gan gynnwys, pan fo’n briodol, sicrhau y bydd cyfleusterau cyfieithu electronig ar gael.

Nid yw ansawdd cyfieithu peirianyddol yn berffaith ac nid yw’n cynnig cyfieithiad sydd cystal â chyfieithiad gan berson. Fodd bynnag, bydd y system yn cynnig lefel o ddealltwriaeth i bobl, bydd yn galluogi rhagor o bobl i gyfathrebu’n ddwyieithog a bydd yn arbed amser a chostau i gyfieithwyr proffesiynol. Nid cymryd lle yr angen i gyfieithu dogfennau a negeseuon ffurfiol yn broffesiynol yw’r nod, ond cynnig dull arall o alluogi pobl i gyfathrebu’n ddwyieithog lle na fyddai’n bosibl fel arall.

Cafwyd cefnogaeth gan sefydliadau eraill fel Llywodraeth Cymru, BBC Cymru Wales, S4C, a’r Gweiadur gan gwmni Gwerin, a gyfrannodd yn helaeth at fwydo brawddegau a geiriau dwyieithog i’r system. Bu’r gefnogaeth honno’n hanfodol i ddatblygiad y cyfleuster hwn ac mae’r cyfleuster yn brawf o’r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt.

Drwy barhau i gydweithio â’r gymuned ieithyddol a sefydliadau dwyieithog, gallwn fwydo cywiriadau a rhagor o ddata i’r system, a gwella’n barhaus ansawdd y cyfieithiadau a ddarperir, fel bod modd i bobl ledled y byd ei defnyddio’n hyderus.

Am ragor o wybodaeth am y system cyfieithu peirianyddol, ewch i

www.cynulliadcymru.org/cyfieithupeirianyddol.