Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd da gyda chynllun Dysgu Seiliedig ar Waith.

Cyhoeddwyd 22/10/2009   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd da gyda chynllun Dysgu Seiliedig ar Waith.

22 Hydref 2009

Mae Cadeirydd Pwyllgor Archwilio Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw wedi croesawu adroddiad newydd gan yr Archwilydd Cyffredinol ar Ddysgu Seiliedig ar Waith.

Mae'r adroddiad yn dilyn astudiaeth arall a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2006 a oedd yn feirniadol o’r modd y câi cynllun Llywodraeth y Cynulliad ei reoli’n ariannol.

Mae'r adroddiad diweddaraf yn dangos bod gwelliannau wedi eu gwneud.

"Mae’r adroddiad diweddaraf hwn gan yr Archwilydd Cyffredinol yn dangos bod Llywodraeth y Cynulliad wedi gwneud cynnydd da wrth fynd i'r afael â gwendidau yn gynharach o’r modd y caiff y cynllun ei reoli’n ariannol," meddai Jonathan Morgan AC, Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

"Fodd bynnag, mae'r adroddiad hefyd yn canfod nad yw Llywodraeth y Cynulliad wedi dysgu gwersi pwysig ehangach o'r problemau cynharach a gafwyd gyda Dysgu Seiliedig ar Waith ar draws pob un o'i adrannau."

"Mae Llywodraeth y Cynulliad yn mynd drwy newid trefniadol a'r bwriad yw y bydd y trefniadau newydd yn sicrhau y bydd argymelliadau adroddiadau archwilio yn cael eu rhannu a'u cymhwyso yn fwy eang."