Llywydd a Chadeirydd Pwyllgor yn dweud wrth un o Bwyllgorau San Steffan fod yn rhaid i lais Cymru gael ei glywed yn glir wrth i ni ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, gan alw am sefydlu Cynhadledd Llefaryddion

Cyhoeddwyd 05/02/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/02/2018

Heddiw, mae Elin Jones AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Mick Antoniw AC, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wedi galw am adolygiad o'r trefniadau rhyngseneddol a rhynglywodraethol sy'n gysylltiedig â gadael yr UE i sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed yn uchel ac yn glir.

Wrth roi tystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin i ddatganoli a Brexit, cyfeiriodd Mick Antoniw at ganfyddiadau allweddol adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Lywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, a gyhoeddwyd ar 2 Chwefror. Yn benodol, ailadroddodd argymhelliad yr adroddiad y dylid sefydlu Cynhadledd Llefaryddion i wella'r ffordd y mae seneddau'n gweithio gyda'i gilydd ac yn dwyn llywodraethau'r DU i gyfrif. 

Dywedodd Mick Antoniw AC: "Byddai cynhadledd sy'n cynnwys Llefaryddion a Llywyddion o bob un o ddeddfwrfeydd y Deyrnas Unedig yn cynyddu'r ddealltwriaeth a'r cydweithio rhwng seneddau'r DU ar yr adeg dyngedfennol hon o ran materion cyfansoddiadol yn y DU. Yn yr un modd, mae angen inni weld newid sylweddol yn y modd y bydd cysylltiadau rhynglywodraethol yn gweithio. Nid yw'r Cydbwyllgor Gweinidogol, a sefydlwyd yn sgil datganoli yn y 1990au, wedi esblygu yn unol â dyfnder ac ehangder setliadau cyfansoddiadol y gwledydd datganoledig. Mae'r Pwyllgor hefyd am weld Bil yr UE (Ymadael) yn cael ei ddiwygio i roi sylfaen statudol i gysylltiadau rhynglywodraethol. Ar hyn o bryd, mae'r broses yn cael ei llywio gan bersonoliaethau, gan olygu mai siop siarad yn unig yw'r Cydbwyllgor, sy'n galluogi Gweinidogion i drafod syniadau y tu ôl i ddrysau caeedig heb unrhyw dryloywder nac atebolrwydd.

Nawr yw'r amser i adolygu'r trefniadau hyn ac i ddatblygu trefniadau rhyngseneddol yn y DU sy'n addas at ddibenion craffu ar effaith Brexit ar fframwaith cyfansoddiadol y DU."

Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd: "Mae'r foment unigryw hon yn galw am drefniadau rhyngseneddol unigryw er mwyn craffu ar waith ein llywodraethau. Rwyf yn croesawu ac yn cefnogi argymhelliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid sefydlu Cynhadledd Llefaryddion ffurfiol sy'n canolbwyntio ar y trefniadau ar gyfer Brexit. Mae trafod effaith ymadael â'r UE ar y pwerau a fydd yn dychwelyd ac yn cael eu datganoli i Gymru yn hanfodol, oherwydd bydd y gwaith hwn yn penderfynu pa mor gyflym y gallwn wneud penderfyniadau er budd ein hetholwyr. Ar adeg pan fo mwyafrif o bwyllgorau'r Cynulliad yn trafod materion sy'n gysylltiedig â Brexit fel rhan o'u rhaglenni craffu parhaus, dyma'r darn o'r jig-so sydd ar goll – a byddaf yn codi'r mater hwn â'm cymheiriaid yn yr Alban, yn San Steffan ac yng Ngogledd Iwerddon yn ein cyfarfod nesaf."