Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol yn lansio menter ffotograffiaeth i gyfleu democratiaeth ar waith
15 May 2012
Heddiw (14 Mai), bydd Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn lansio menter unigryw i annog rhagor o bobl yng Nghymru i ymwneud â’r broses wleidyddol.
Bydd cystadleuaeth ffotograffiaeth gyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael ei lansio’n swyddogol yn Oriel y Wal, Ysgol Ffotograffiaeth Ddogfennol Prifysgol Cymru, Casnewydd, ar Gampws y Ddinas, am 18.30, a’i bwriad yw ceisio dangos nad yw democratiaeth yn rhywbeth sy’n digwydd ym Mae Caerdydd yn unig.
Diben y gystadleuaeth yw ceisio annog pobl i weld bod gwleidyddiaeth yn ymwneud yn gyfan gwbl â materion o bwys i unigolion, eu teuluoedd a’u cymunedau, a dangos y gall pobl fynd i’r afael â’r materion hynny a sicrhau bod democratiaeth yn gweithio o’u plaid hwy drwy weithio gyda’u cynrychiolwyr etholedig.
Dywedodd Rosemary Butler AC: “Gall y ffaith bod un person yn gwneud safiad wneud gwahaniaeth mawr; gall newid ddigwydd pan fydd pobl o dref neu bentref yn dod at ei gilydd i wneud gwelliannau i’w cymuned; mae gwrthdystiadau a phrotestiadau yn rhoi llais i ddemocratiaeth.
“Felly, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn eich gwahodd CHI i anfon eich lluniau CHI o ddemocratiaeth ar waith yng Nghymru.
“Does dim rhaid i chi fod yn ffotograffydd ac nid oes yn rhaid i chi gael camera hyd yn oed – rydym yr un mor awyddus i weld lluniau aneglur o weithgareddau wedi’u cymryd ar eich ffôn ag yr ydym i weld lluniau a gymerwyd ar eich camera digidol.
“Cyhyd â’u bod yn cyfleu’r pwer sydd gennym ni fel dinasyddion Cymru i newid ein gwlad, anfonwch hwy atom. Yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi ennill gwobrau arbennig, bydd eich lluniau yn ychwanegu at gofnod hanesyddol, gweledol o Gymru yn ystod y cyfnod unigryw hwn yn hanes datganoli yng Nghymru.”
Mae’r gystadleuaeth yn cael ei threfnu ar y cyd â Ffotogallery, prif hyrwyddwr Cymru o’r cyfryngau sy’n seiliedig ar lensiau, ac Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a’r Cyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd.
Gwahoddir y rheini a hoffai gymryd rhan i anfon eu lluniau at “Democratiaeth ar Waith yng Nghymru” yn www.democracyinactioninwales.org / www.democratiaetharwaith.org .
Bydd y sawl a dynnodd y llun buddugol yn ennill camera SLR digidol (a roddwyd gan Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a’r Cyfryngau Digidol Prifysgol Cymru, Casnewydd) a chwrs ffotograffiaeth sy’n cael ei gynnal gan Ffotogallery. Bydd 20 o’r lluniau ar y rhestr fer yn cael eu harddangos yn y Senedd ym mis Medi, a bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni ar 3 Hydref, pan fydd y gwobrwyon yn cael eu rhoi.
Beirniaid y gystadleuaeth yw:
Rosemary Butler AC - Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol a Chadeirydd y panel beirniadu
David Hurn - Newyddiadurwr ffotograffig, aelod o Magnum Photos a sefydlydd y cwrs BA mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol ym Mhrifysgol Cymru, Casnewydd.
Yr Athro Dai Smith – Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, hanesydd ac awdur nodedig ar gelfyddydau a diwylliant Cymru.
Gideon Koppell - Artist a gwneuthurwr ffilmiau, Athro Ffilm Prifysgol Aberystwyth, a Chymrawd Cyswllt Coleg Green Templeton, Prifysgol Rhydychen.
Marc Evans – Gwneuthurwr ffilmiau a chyfarwyddwr Snow Cake a Hunky Dory; mae Marc Evans yn athro gwadd yn ysgol gelfyddydau ATRiuM Prifysgol Morgannwg.
Betina Skovbro – Trefnydd Photomarathon UK a ffotograffydd llawrydd, wedi’i lleoli yng Nghaerdydd.
Gall y cyhoedd bleidleisio hefyd am eu hoff lun, a rhoddir yr un wobr i’r enillydd ag a roddir i enillydd y beirniaid.