Llywydd y Cynulliad i gwrdd â phobl ifanc yn y Gogledd mewn ymdrech olaf i gyfleu neges Pleidleisiwch 2011

Cyhoeddwyd 28/01/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llywydd y Cynulliad i gwrdd a phobl ifanc yn y Gogledd mewn ymdrech olaf i gyfleu neges Pleidleisiwch 2011

Bydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn treulio’r diwrnod ym Mangor ddydd Gwener (28 Ionawr) mewn ymdrech olaf i annog pobl i fynd allan i bleidleisio eleni.

Yn gyntaf, bydd yn cwrdd a phobl ifanc o Ysgol Tryfan a fydd yn pleidleisio am y tro cyntaf, ar fws allgymorth y Cynulliad yn Stryd Fawr Bangor ar brynhawn dydd Gwener.   

Dilynir hyn gan sesiwn holi ac ateb gyda myfyrwyr o Brifysgol Bangor ym mhrif adeilad y celfyddydau.

“Mae’n flwyddyn hynod bwysig i ni gyd,” meddai’r Llywydd, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.

“Bydd angen i ni ddewis nid yn unig pwy sy’n ein cynrychioli yn y Senedd, ond hefyd a ddylai’r cynrychiolwyr etholedig hynny gael rhagor o bwerau i wneud deddfau i Gymru.

“Neges syml iawn sydd gennyf, eich Cynulliad Cenedlaethol chi ydyw, felly ewch ati i ddweud eich dweud.”

Mae’r ddau ddigwyddiad yn ffurfio rhan o ymgyrch ehangach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i roi gwybodaeth wrthrychol ac amhleidiol i bleidleiswyr Cymru am y tair pleidlais y byddant yn eu hwynebu yn y blwch pleidleisio eleni.

“Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y sesiwn ar fws Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddydd Gwener,” meddai Catrin Tomos, 18 oed, o Ysgol Tryfan, Bangor.

“Yn sicr, bydd yn gyfle gwych i ni gael rhagor o wybodaeth am y system bleidleisio, yn enwedig o ystyried y bydd y rhan fwyaf ohonom yn pleidleisio am y tro cyntaf eleni.”
Ychwanegodd Sharyn Williams, Is-Lywydd Undeb Myfyrwyr Prifysgol Bangor: “Mae Undeb Myfyrwyr Bangor yn falch iawn y bydd yr Arglwydd Elis-Thomas a’r Cynulliad yma yn ymgysylltu a’n haelodau ac yn ateb eu cwestiynau.  

“O ystyried digwyddiadau’r flwyddyn ddiwethaf, mae’n amlwg fod gan fyfyrwyr ddiddordeb mewn materion sy’n effeithio arnynt ac eraill o’u cwmpas.

“Mae’n hynod bwysig fod pobl ifanc a myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a democratiaeth, gan fod eu llais yr un mor bwysig a llais unrhyw un arall.   

“Mae Undeb y Myfyrwyr yn gobeithio y bydd ein haelodau yn manteisio ar y cyfle hwn i ddysgu mwy am ddatganoli, trefn lywodraethol Cymru a sut y mae’r drefn honno wedi effeithio arnynt.”
Yn 2011 bydd:

- Refferendwm ar 3 Mawrth i ofyn a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gael rhagor o bwerau deddfu;

- Bydd Etholiad ar 5 Mai i ethol Aelodau’r Cynulliad i’n cynrychioli yn y Senedd ym Mae Caerdydd.  

- Ar yr un diwrnod ag etholiad y Cynulliad, gofynnir i ni a ddylem ethol ein Haelodau Seneddol yn San Steffan drwy system bleidleisio wahanol.

Fel rhan o’r ymgyrch i roi gwybodaeth, mae’r Cynulliad yn cynnal ymgyrch gyhoeddusrwydd ar-lein, sy’n targedu’r grwp oedran 18-35, drwy’r cyfryngau y mae’r grwp hwn yn eu defnyddio.

Er enghraifft, bydd pob person ifanc yng Nghymru sydd a chyfrif Facebook neu Hotmail yn gweld hysbyseb Pleidleisiwch 2011 pan fyddant yn mewngofnodi (cliciwch yma i lawrlwytho enghreifftiau o’r ymgyrch).

Mae’n seiliedig ar y syniad fod pleidleisio yn rhan o fywyd bob dydd, gan ddefnyddio cwestiynau fel ‘Strictly neu X Factor?’, ‘iPhone neu BlackBerry?’ a’r slogan ‘mae pleidleisio’n rhwydd, ni’n ei ‘neud e’ bob dydd’ i ysgogi pobl i ddarllen mwy.