Llywydd y Cynulliad yn ennill gwobr fawreddog

Cyhoeddwyd 13/09/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Llywydd y Cynulliad yn ennill gwobr fawreddog

13 Medi 2013

Mae Rosemary Butler AC, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, wedi ennill gwobr fawreddog am ei gwaith fel Aelod Cynulliad.

Cafodd ei henwi'n Aelod Senedd neu Gynulliad Datganoledig y Flwyddyn yn ystod seremoni wobrwyo flynyddol Gwobrau Menywod mewn Bywyd Cyhoeddus a gynhaliwyd yn Llundain mewn cydweithrediad â ActionAid, FDA a Dods.

Dewiswyd y Llywydd ar ôl iddi gael ei hethol yn Llywydd benywaidd gyntaf erioed mewn sefydliad datganoledig yn y DU, ac yn benodol, am ei gwaith yn sicrhau bod y rhwystrau y mae menywod yn eu hwynebu wrth fynd i mewn i fywyd cyhoeddus ar frig yr agenda gwleidyddol.

Roedd Caroline Pidgeon, Aelod Cynulliad Llundain, a Johann Lamont, Aelod o Senedd yr Alban, ar y rhestr fer hefyd.

Dywedodd y Llywydd: “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi ennill y wobr hon, yn enwedig o gofio'r menywod ysbrydoledig eraill o'r DU a oedd ar y rhestr fer hefyd."

“Rwyf yn benderfynol y bydd y llwyddiant hwn ond yn ein hannog ymhellach i ddileu'r rhwystrau i fenywod o ran cymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus yng Nghymru.

“Rydym wedi clywed gan fenywod ysbrydoledig o bob cefndir, a rannodd eu profiadau a'u cyngor mewn cyfres o seminarau a gynhaliwyd yn ystod fy amser fel Llywydd y Cynulliad.

“Arweiniodd y seminarau hynny at gynhadledd genedlaethol lle cefais fandad i ysgrifennu at arweinwyr y pleidiau yng Nghymru ynghylch y gostyngiad yn nifer yr Aelodau Cynulliad benywaidd.

“Felly, mae'r wobr hon hefyd yn gydnabyddiaeth i’r holl fenywod yr wyf wedi cyfarfod â hwy ledled Cymru yn y 18 mis diwethaf sydd wedi creu cymaint o argraff arnaf, ac wrth gwrs mae’n gydnabyddiaeth i staff y Cynulliad sydd wedi fy nghynorthwyo yn fy rôl a thrwy gydol fy ngyrfa.”

Cam nesaf y Llywydd o ran hyrwyddo rôl menywod ym mywyd cyhoeddus fydd lansio gwefan a fydd yn cynnwys manylion am benodiadau cyhoeddus yng Nghymru a chyfleoedd hyfforddi priodol i fenywod, yn ogystal â chynllun mentora a fydd yn darparu cyfleoedd i wneud gweithgareddau dwys o ran datblygu personol, mentora a chysgodi.

Ers iddi gael ei hethol i’r swydd ym mis Mai 2011, mae'r Llywydd wedi cyflwyno nifer o newidiadau i fusnes y Cynulliad.

Yr ysgogiad y tu ôl i’r newidiadau hyn fu penderfyniad y Llywydd i sicrhau bod gwaith craffu yn fwy effeithiol ac i greu rhagor o gyfleoedd i Aelodau nodi materion sy’n berthnasol i’r etholwyr.

Mae’r newidiadau hynny wedi cynnwys:

  • rhoi mwy o gyfle i arweinyddion y gwrthbleidiau holi’r Prif Weinidog;

  • ailstrwythuro’r system bwyllgorau i’w gwneud yn fwy ymatebol i’r materion a ddaw gerbron y Cynulliad. Erbyn hyn, mae pum Pwyllgor mwy o faint sydd â dwy rôl, sef edrych ar bolisi a deddfwriaeth;

  • caniatáu rhagor o amser ar gyfer Dadleuon Aelodau Unigol; a

  • rhoi mwy o gyfle i Aelodau Cynulliad y meinciau cefn gyflwyno deddfwriaeth.

Yn ystod ei chyfnod yn y swydd, enwyd y Cynulliad yn un o’r 10 lle gorau sy’n ystyriol o deuluoedd gan sefydliad Top Employers for Working Families, yn un o’r gweithleoedd mwyaf ystyriol o bobl hoyw yn y DU gan Stonewall, a chafodd ei achredu yn gyflogwr Cyflog Byw ar ôl cyflwyno isafswm o £7.45 yr awr i unrhyw un a gyflogir ar ystâd y Cynulliad.

“Rwyf yn hynod o falch bod y Llywydd wedi cael ei hanrhydeddu drwy'r wobr hon,” meddai Claire Clancy, Clerc y Cynulliad Cenedlaethol.

"Mae'n deyrnged i'r ymroddiad a'r angerdd y mae hi wedi'u dangos wrth hyrwyddo'r rôl hanfodol y gall menywod ei chwarae ym mywyd cyhoeddus yng Nghymru.

“Mae ei phenderfyniad i leihau’r rhwystrau i fenywod fynd i mewn i fywyd cyhoeddus yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.

“Rwy’n falch o allu gweithio gyda’r Llywydd ar faterion a all wir helpu i hyrwyddo democratiaeth yng Nghymru.”