​​Mae angen arweinyddiaeth gryfach i sicrhau bod Cynllun Canser Llywodraeth Cymru yn bodloni ei ddyheadau

Cyhoeddwyd 16/10/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/06/2015

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am "arweinyddiaeth genedlaethol gryfach" i sicrhau bod cynllun Llywodraeth Cymru i atal, canfod a thrin canser yn cael ei ddarparu i'w lawn botensial erbyn 2016.

Canfu'r Pwyllgor fod 'Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser y GIG hyd at 2016' wedi gwneud gwelliannau mewn rhai meysydd, yn enwedig ymchwil, sgrinio canser a gofal diwedd oes.

Fodd bynnag, dywedodd rhai sydd â diagnosis o salwch sy'n gysylltiedig â chanser wrth y Pwyllgor nad oedd eu profiadau bob amser yn cyd-fynd â'r dyheadau a nodir yn y cynllun.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion i'r Gweinidog, ac os cânt eu derbyn a'u rhoi ar waith, rydym o'r farn y byddant yn helpu i fodloni dyheadau'r cynllun. 

"Mae'r pwysicaf o'r rhain, o bosibl, yn ymateb i'r pryderon a glywsom na fydd dyheadau'r Cynllun yn cael eu gwireddu tan 2016 os na fydd arweinyddiaeth genedlaethol gryfach. 

"Ar sail hynny, rydym yn gofyn i'r Gweinidog sicrhau bod corff gyda chylch gwaith clir, a'r adnoddau sydd eu hangen, i ddarparu sbardun ac arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol, gan ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am gyflawni eu cynlluniau lleol."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 13 argymhelliad:

1. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sicrhau bod corff yn bodoli sydd â'r cylch gwaith a'r adnoddau i lywio'r broses o gyflawni Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru ar lefel genedlaethol, dwyn byrddau iechyd i gyfrif am gyflawni eu cynlluniau lleol a blaengynllunio gwasanaethau canser mewn ffordd strategol.                                     

2. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol atgoffa byrddau iechyd o'r gofyniad yn y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser iddynt gyhoeddi eu cynlluniau cyflawni lleol ar gyfer canser a'u hadroddiadau blynyddol ar eu gwefannau er mwyn galluogi'r cyhoedd i'w dwyn i gyfrif, a dylai ofyn i fyrddau iechyd arddangos y wybodaeth hon yn amlwg a sicrhau ei bod yn hawdd cael gafael arni.                                                                                                            

 

3. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl 12 mis am y strategaeth ar gyfer targedu ymgyrchoedd atal canser at grwpiau mwy anodd eu cyrraedd ac ardaloedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig, gan gynnwys gwybodaeth am y terfynau amser bwriadedig, goblygiadau ariannol a sut y caiff effeithiolrwydd ymgyrchoedd ei fesur.                                                                                                             

 

4. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl 12 mis am y camau a gymerwyd i sicrhau y caiff pob cyfle i hyrwyddo gwasanaethau sgrinio ymhlith grwpiau mwy anodd eu cyrraedd ei ystyried ac y manteisir ar y cyfleoedd hynny, ac effaith gwaith hyrwyddo o'r fath ar nifer y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn.              

 

5. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol weithio gyda Deoniaeth Cymru a'r Cyngor Meddygol Cyffredinol er mwyn sicrhau bod hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus meddygon teulu yn codi ymwybyddiaeth o symptomau canser, diagnosis cynnar, a'r adnoddau sydd ar gael i helpu meddygon teulu i gyflawni eu rolau.                                  

 

6. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd gymryd camau i sicrhau bod meddygon teulu yn glir ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael a'r trefniadau atgyfeirio sydd ar waith yn eu hardal.                            

 

7. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wneud datganiad ar ganfod canser, gan gynnwys triniaethau diagnostig, strategaeth y Gweinidog i gefnogi diagnosteg ledled Cymru, ac effaith yr arian ychwanegol a ddarperir yn 2014-15 a'r gwerth am arian sy'n deillio o'r arian hwnnw.                        

 

8. Er mwyn sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru, dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sefydlu panel cenedlaethol i ystyried Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol a gwneud penderfyniadau yn eu cylch.                                                        

 

9. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl 12 mis am y camau a gymerwyd, gan gynnwys y canllawiau y mae wedi ymrwymo i'w darparu, a'r cynnydd a wnaed gan fyrddau iechyd i sicrhau bod gofynion y Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser i bob claf gael ei neilltuo i weithiwr allweddol a chael cynllun gofal ysgrifenedig wedi'u bodloni erbyn 2016.                 

 

10. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nodi'r camau a gymerir, ynghyd â'r terfynau amser cysylltiedig a'r goblygiadau ariannol, i fynd i'r afael ag anghenion ôl-ofal y niferoedd cynyddol o bobl sy'n byw gyda chanser yn y tymor hwy.  Dylai camau gweithredu o'r fath ystyried anghenion meddygol ac anfeddygol cleifion.                                 

 

11. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nodi'r camau a gymerir, ynghyd â'r terfynau amser cysylltiedig a'r goblygiadau ariannol, i fynd i'r afael â mynediad anghyfartal at ofal diwedd oes a gofal lliniarol, a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar ôl 12 mis am effaith y camau hynny.               

 

12. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, fel mater o flaenoriaeth, ystyried datblygu System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru neu gyflwyno system newydd yn ei lle, a sicrhau bod blaenoriaethau clinigol a blaenoriaethau o ran ymchwil yn cael eu hystyried, gan gynnwys cyfnodau o ofal eilaidd.                                                             
 
13. Dylai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nodi'r camau gweithredu a gymerir, ynghyd â'r terfynau amser cysylltiedig, i sicrhau y caiff meddyginiaethau haenedig eu datblygu a'u darparu yng Nghymru.