Mae angen gwella'r berthynas broffesiynol rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu er mwyn datblygu fferyllfeydd cymunedol yng Nghymru ymhellach, yn ôl pwyllgor trawsbleidiol.
Yn ei ymchwiliad dilynol i gyfraniad fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd, croesawodd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol yr ymdrechion a wnaed hyd yma i ddatblygu prosesau cydweithio rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu, ond gwelwyd mai araf yw'r cynnydd o ran gwella cydweithio rhwng y proffesiynau gwahanol.
Yn ei lythyr at y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford AC, mae'r Pwyllgor yn nodi y bydd deddfwriaeth sydd ar ddod ynghylch iechyd y cyhoedd yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r materion a nodwyd yn ymchwiliad gwreiddiol y Pwyllgor i fferyllfeydd cymunedol yn 2012, gan nodi rhai meysydd lle y mae angen rhagor o waith.
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, "Er bod y Pwyllgor yn croesawu'r camau a gymerwyd eisoes i wella cydweithio rhwng fferyllwyr cymunedol a meddygon teulu, rydym yn siomedig ynghylch arafwch y cynnydd.
"Rydym yn galw ar y Gweinidog i ystyried creu gweithgor sy'n cynnwys meddygon teulu a fferyllwyr cymunedol er mwyn cyflymu'r broses o sicrhau consensws rhwng y ddau broffesiwn.
Roedd adroddiad gwreiddiol y Pwyllgor yn cynnwys saith argymhelliad. Mae cynnydd wrth roi'r argymhellion hyn ar waith wedi'i asesu fel rhan o ymchwiliad dilynol y Pwyllgor. Ym mhob achos, mae'r Gweinidog wedi rhoi ei farn i'r Gweinidog ar y cynnydd a wnaed hyd yma wrth roi'r argymhellion hyn ar waith. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i wneud y canlynol:
- gwella dulliau cyfathrebu ymhellach i roi gwybod i'r cyhoedd ynghylch gwasanaethau fferyllfeydd cymunedol;
- darparu arweiniad cenedlaethol cliriach ar gyfer datblygu gwasanaethau fferyllfeydd cymunedol;
- dod i gytundeb rhwng gweithwyr proffesiynol a chleifion ynghylch y graddau y dylai fferyllfeydd cymunedol a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd allu cael mynediad at wybodaeth am gleifion;
- ystyried newid y ffordd y mae fferyllfeydd cymunedol yn cael eu cyllido er mwyn sicrhau system sy'n seiliedig ar safon y canlyniadau yn hytrach na nifer y meddyginiaethau a ddosberthir.