Mae angen cyfeiriad pendant ar raglen cefnffyrdd dameidiog
Mae angen dull gweithredu strategol a chydgysylltiedig ar raglen cefnffyrdd Llywodraeth Cymru er mwyn ystyried anghenion defnyddwyr.
Dyna farn Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd wedi cynnal ymchwiliad am gyfnod o naw mis i’r mater.
Yn ystod eu sesiynau tystiolaeth clywodd y Pwyllgor bryderon am benderfyniad y Llywodraeth i newid pwyslais y rhaglen o lwybrau dwyrain-gorllewin i lwybrau gogledd-de yn ogystal â gadael y cynllun ar gyfer ffordd liniaru’r M4 heb ei roi ar waith.
Mae’r Pwyllgor yn cael trafferth i osgoi dod i’r casgliad fod y flaenraglen cefnffyrdd yn cael ei datblygu heb ystyried anghenion defnyddwyr - bron fel pe bai’n derfyn ynddo’i hun,” meddai Angela Burns AC, Cadeirydd y Pwyllgor.
Roeddem yn siomedig nad oedd dull gweithredu mwy strategol ar waith gyda’r rhan bwysig hon o seilwaith trafnidiaeth Cymru ac wedi ein synnu, er bod y rhaglen cefnffyrdd wedi’i chyflwyno fel pedwar prif goridor o fewn Cymru, ei bod, yn ymarferol, yn fwy fel cyfres o oddeutu 50 cynllun ffordd unigol sy’n amrywio o ran blaenoriaeth yng ngoleuni datblygiadau.
Gwelsom fod y rhaglen wedi’i hadolygu ddwywaith mewn chwe blynedd a bod 32 o newidiadau wedi’i gwneud gyda chyflwyno cynlluniau fesul cam o fewn y rhaglen.
Er bod y Pwyllgor yn derbyn y gall cynlluniau ffordd, fel gydag unrhyw fuddsoddiad tymor hir wynebu trafferthion sy’n rhwystro cynnydd, fe’i cafodd yn anodd gweld bod y rhaglen yn cael ei rheoli fel rhaglen strategol oherwydd bod cymaint o addasu wedi bod arni.”
Noda’r Pwyllgor hefyd fod y mwyafrif o dystion yn mynegi pryder ynghylch y blaenoriaethau yn y cynllun a’i fod yn methu ag ateb anghenion economaidd Cymru.
Pwysleisiodd yr adroddiad y dylai’r flaenraglen cefnffyrdd gael ei chynllunio i fod yn sail i ystod eang o amcanion polisi’r Llywodraeth ac roedd yn argymell y dylai uned bwrpasol fod yn gyfrifol am ei darparu.
Rhaid i’r Llywodraeth yn awr nodi sut y bydd yn tynhau ffocws y rhaglen gyfredol er mwyn diwallu’r problemau niferus a achoswyd gan amcangyfrifo gwael, oedi, ansicrwydd am ariannu a chywiro diddiwedd,” ychwanegodd Mrs Burns.
Yn benodol, mae’r Pwyllgor yn gofyn i’r Llywodraeth fynd i’r afael â’r pryderon amlwg am aildrefnu blaenoriaethau yn 2008 gan sefydliadu yng Nghymru”
Y Pwyllgor Cyllid - Adroddiad ar Ariannu Seilwaith Ffyrdd