Ni ddylai cynnig i drosglwyddo rhai o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru fynd rhagddo heb ddadansoddiad beirniadol pellach o'r manteision a'r goblygiadau, yn ôl pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi bod yn archwilio canfyddiadau adolygiad annibynnol i gefnogaeth i gyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru, dan arweiniad yr Athro Medwin Hughes.
Er na wnaeth y Pwyllgor gynnal archwiliad fforensig o holl ganfyddiadau'r panel, mae'r ffordd y mae'r ddadl o amgylch yr adolygiad wedi gorbwyso materion pwysig o fewn y sector y mae angen mynd i'r afael â hwy wedi dod yn fater o bryder cynyddol i'r Pwyllgor.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad yw dadansoddiad y panel o'r dirywiad mewn cyhoeddi yng Nghymru yn ddigonol. Mae'r diffyg dadansoddiad hwn yn codi pryderon mwy cyffredinol ynghylch y sylfaen dystiolaeth ar gyfer argymhellion y panel.
Nid oedd y Pwyllgor ychwaith yn argyhoeddedig bod ystyriaethau a chostau trosglwyddo swyddogaethau o Lenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru wedi cael eu hystyried yn briodol neu fod Cyngor Llyfrau Cymru ar hyn o bryd yn y sefyllfa orau i ymgymryd â'r cyfrifoldebau newydd hyn.
Wrth gydnabod bod Llenyddiaeth Cymru'n wynebu nifer o heriau, ni chafodd aelodau'r pwyllgor lawer o dystiolaeth i awgrymu bod y sefydliad yn anaddas i dderbyn arian cyhoeddus neu ei fod mewn perygl o chwalu, fel yr awgrymodd yr adolygiad annibynnol.
"Mae'r Pwyllgor yn anghyfforddus â'r ffordd y mae'r ddadl o gwmpas yr adolygiad hwn a'r sector llenyddiaeth yng Nghymru wedi cael ei chyflwyno, ac nid yw wedi'i argyhoeddi gan beth o'r dystiolaeth a arweiniodd at argymhellion y panel," meddai Bethan Sayed, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
"Credwn fod y cynnig i drosglwyddo pwerau a chyfrifoldebau o Lenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru yn gynamserol ac mae angen dadansoddiad pellach arno.
"Hoffem hefyd weld dull mwy agored a thryloyw gan Lywodraeth Cymru ynghylch aelodau o baneli ymgynghori a benodir.
"Rydym yn bwriadu rhoi ystyriaeth bellach i'r materion hyn mewn ymchwiliad yn y dyfodol."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud tri argymhelliad yn ei adroddiad. Y rhain ydy:
Y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi'r holl ddogfennau a nodir ym mharagraff 49 yr adroddiad a chofnodion cyfarfodydd y panel annibynnol;
Bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull agored a thryloyw yn y dyfodol ar gyfer penodi aelodau paneli ymgynghori a chyrff tebyg, lle nad oes angen proses penodi cyhoeddus lawn; a
Ni ddylid bwrw ymlaen â chynigion y panel i drosglwyddo swyddogaethau o Lenyddiaeth Cymru i Gyngor Llyfrau Cymru heb ddadansoddiad ac ystyriaeth feirniadol ychwanegol.