Mae angen diffiniad clir o ‘reoli tir yn gynaliadwy’, yn ôl pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 19/05/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen diffiniad clir o ‘reoli tir yn gynaliadwy’, yn ôl pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

19 May 2014

Mae angen diffiniad clir o reoli tir yn gynaliadwy i warchod ein hamgylchedd naturiol a’r bobl a’r busnesau sy’n ennill eu bywoliaeth ohono, yn ôl Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor yn credu y bydd cytuno ar ddiffiniad yn genedlaethol a’i ymgorffori yn dod ag eglurder a sicrwydd i’r hyn a ddisgwylir gan reolwyr tir.

Rhaid i reolwyr tir hefyd gael yr offer a’r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni mewn modd sy’n gweddu i’w hamgylchiadau penodol.

Yn ystod ei ymchwiliad, ymwelodd y Pwyllgor â nifer o ffermydd, cyrff cadwraeth, prosiectau parciau cenedlaethol a busnesau gwledig a chymerodd dystiolaeth oddi wrthynt, gan greu map sy’n dangos enghreifftiau o arfer gorau yng Nghymru a’r tu hwnt.

Daeth i’r casgliad bod yn rhaid gwneud mwy i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf o ran data ac arloesedd er mwyn cau’r bwlch gwybodaeth rhwng y rhai sy’n datblygu ymchwil a thechnegau newydd a’r rhai sy’n gweithio yn y sector.

Dywedodd Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, “Roedd dod o hyd i ddiffiniad o reoli tir yn gynaliadwy yn anodd iawn yn ein hymchwiliad, ond cytunodd pawb ei bod yn angenrheidiol er mwyn rhoi sylfaen gadarn i reolwyr tir o ran eu gwaith”.

“Nid oedd yn anodd gweld y nifer o enghreifftiau gwych yng Nghymru lle mae’r cydbwysedd bregus rhwng cadwraeth a menter fasnachol yn cael ei drin â chydymdeimlad.

“Aeth ein hymchwiliad i ysguboriau, ceginau ffermdai, cefn Land Rovers a labordai ymchwil a gwelsom drosom ein hunain y gwaith caled ac arloesol sy’n cael ei wneud ar gyfer y sector amgylcheddol ac amaethyddol.

“Ond credwn fod bwlch gwybodaeth rhwng y rhai sy’n gweithio ar lawr gwlad a’r datblygiadau diweddaraf o ran gwybodaeth ac arloesedd yn y canolfannau ymchwil.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn coethi ei diffiniad o ‘reoli cynaliadwy’ i ystyried ein hegwyddorion allweddol. Dylid gwneud hyn cyn cyflwyno’r Bil Amgylchedd, ac yn ddelfrydol dylid ei gynnwys yn y Bil drafft y mae’r Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd wedi ymrwymo i’w ddarparu erbyn diwedd 2014.

  • Bod Llywodraeth Cymru yn archwilio ffyrdd y gellir cynllunio cynlluniau cyfredol, fel Glastir, fel eu bod yn rhoi grym i dirfeddianwyr wneud penderfyniadau am sut i reoli tir yn gynaliadwy ar lawr gwlad; a

  • Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y Cynllun Datblygu Gwledig a’r cynllun Glastir diwygiedig yn cael eu defnyddio i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n well o’n canolfannau ymchwil i reolwyr tir ar lawr gwlad ac i gefnogi a hwyluso trosglwyddo gwybodaeth rhwng rheolwyr tir.

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i reoli tir yn gynaliadwy ar gael yma.