"Mae angen fframwaith cyfansoddiadol cryf i Gymru" – y Llywydd yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor y Cynulliad

Cyhoeddwyd 05/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/07/2016

​Bydd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, yn amlinellu’r newidiadau ychwanegol y mae’n awyddus i’w gwneud i Fil Cymru pan fydd yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad yfory (6 Gorffennaf).

Mae hefyd wedi anfon ei gwelliannau arfaethedig at Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Aelodau Seneddol Cymru cyn ail ddadl Pwyllgor San Steffan ar y Bil ar 11 Gorffennaf.


"Mae'r Bil yn dangos cynnydd ers y Bil drafft ond mae angen gwaith pellach i sicrhau setliad cyfansoddiadol sy'n ymarferol, yn glir ac yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer dyfodol y Cynulliad," meddai'r Llywydd.


Yn dilyn y bleidlais i Adael yn Refferendwm yr UE yr wythnos diwethaf, mae'n hanfodol sicrhau bod gan Gymru fframwaith cyfansoddiadol cryf. Mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn cael Bil Cymru sy'n iawn i Gymru.


"Fel Llywydd, mae cyhoeddi gwelliannau yn gam arloesol ond fy rôl i yw cynrychioli buddiannau'r Cynulliad a sicrhau ei fod yn gwasanaethu pobl Cymru yn effeithiol. Bwriad y gwelliannau yw darparu setliad i'r Cynulliad sy'n glir, yn ymarferol heb iddo gymryd cam yn ôl o ran pwerau'r Cynulliad, a sicrhau y gellir adlewyrchu aeddfedrwydd y Cynulliad fel deddfwrfa, drwy roi iddo’r hyblygrwydd i benderfynu ar ei faterion mewnol ei hun. "

Cyhoeddodd y Llywydd welliannau cyn y ddadl gyntaf yn San Steffan cyntaf ar y Bil sy'n cael ei chynnal ar 6 Gorffennaf – cyflwynwyd y rheini gan yr Aelodau Seneddol i’w trafod.

Mae'r ail grŵp o welliannau arfaethedig gan y Llywydd yn cael eu cyhoeddi cyn ail ddadl y Pwyllgor. Bryd hynny bydd yr Aelodau Seneddol yn symud ymlaen i edrych yn fanylach ar y model arfaethedig cadw pwerau’n ôl a fydd yn penderfynu ar gymhwysedd y Cynulliad yn y dyfodol.


Mae’r gwelliannau hyn gan y Llywydd yn canolbwyntio ar sicrhau bod cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad yn glir, yn ymarferol ac nad yw’n gam yn ôl ar y setliad presennol.


"Fy mhryder mwyaf o ran y model arfaethedig ar gyfer cymhwysedd yw'r gwaharddiad llwyr y mae’r Bil yn ei roi ar y Cynulliad i ddeddfu mewn unrhyw fodd sy’n ‘ymwneud â’ mater a gadwyd yn ôl - bydd hyn yn arwain at golli rhywfaint o ryddid o gymharu â'r setliad presennol," meddai'r Llywydd.


"Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl ac at ymateb yr Ysgrifennydd Gwladol i’r gwelliannau ar y pwyntiau pwysig hyn o egwyddor."

Cymhwysedd

  • Mae'r model pwerau cadw pwerau’n ôl yn ei gwneud yn fwy sicr lle mae'r ffin o ran cymhwysedd y Cynulliad.
  • Fodd bynnag, nid yw sicrwydd mewn perthynas â phob maes a gedwir yn ôl yr un peth ag eglurder yn gyffredinol, ac nid yw hon yn ffin glir, hawdd ei deall. Nid yw'n amlwg bod egwyddor cydlynus wedi’i chymhwyso o ran sut y lluniwyd y ffin honno. Byddai egwyddor o’r fath neu set o egwyddorion wedi bod o gymorth mawr o ran y gwaith o ddrafftio'r Bil, ac o ran gallu pawb i ddeall a gweithredu'r setliad yn y dyfodol.

Yn benodol, mae’r gwelliannau’n cynnwys:

  • Cael gwared ar y prawf angenrheidrwydd mewn perthynas â materion a gadwyd yn ôl
  • Darparu bod y cyfyngiad ar allu'r Cynulliad i ddeddfu ar gyfraith trosedd yn adlewyrchu'r cyfyngiad ar gyfer cyfraith breifat