Mae angen gweithredu ar frys i helpu pobl ifanc ddigartref yng Nghymru

Cyhoeddwyd 07/02/2007   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen gweithredu ar frys i helpu pobl ifanc ddigartref yng Nghymru

Mae angen gwneud mwy ar unwaith i fynd i’r afael â’r broblem o bobl ifanc ddigartref yng Nghymru, yn ôl adroddiad blaenllaw newydd a gyhoeddir yfori (dydd Mercher, 7 Chwefror). Mae Pwyllgor Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio y Cynulliad Cenedlaethol wedi cynnal adolygiad helaeth o ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Er mai 782 yw’r nifer swyddogol o bobl ifanc ddigartref yng Nghymru, darganfu’r pwyllgor bod y gwir swm yn debygol o fod ddwywaith gymaint. Wrth gynnal yr adolygiad, bu’r pwyllgor yn siarad â chynrychiolwyr sefydliadau gwirfoddol a statudol, yn ogystal â llawer o bobl ifanc ddigartref ar draws Cymru. Bydd rhai o’r bobl hyn yn y Senedd heddiw ar gyfer lansio’r adroddiad. Mae’r adroddiad yn gwneud sawl argymhelliad allweddol ar gyfer y gwelliant y mae ei angen ar frys ar wasanaethau, a dywed y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod cwmpas ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i bobl ifanc ddigartref yn gyson ledled Cymru a’i fod ar gael lle bo’i angen. Dylai Llywodraeth y Cynulliad, awdurdodau lleol a’r sector gwirfoddol gydweithio, mewn partneriaeth, i symleiddio’r system gymhleth bresennol o gael gafael ar y gwasanaethau sydd ar gael a’r wybodaeth amdanynt. Dylai Llywodraeth y Cynulliad asesu’r angen, a lle bo’n angenrheidiol, darparu digon o arian ar gyfer gwasanaethau sydd wedi’u neilltuo ar gyfer pobl ifanc, a dylai pobl ifanc ddigartref eu hunain fod yn rhan o bob agwedd ar gynllunio gwasanaethau a llunio polisïau. Mae’r pwyllgor hefyd yn argymell y dylai awdurdodau lleol gael cymorth ac arweiniad i sefydlu partneriaethau rhanbarthol er mwyn darparu gwasanaethau effeithiol i bobl ifanc ddigartref. Dywedodd Janice Gregory AC, cadeirydd y pwyllgor: ‘Mae digartrefedd yng Nghymru yn broblem na ddylid ei hanwybyddu. Mae’n effeithio ar leiafrif arwyddocaol o rai o’n pobl ifanc mwyaf agored i niwed bob blwyddyn. Mae’r ddyletswydd gofal y mae’n rhaid i ni ei thalu i’r bobl ifanc hyn yn fawr a chredaf eu bod yn haeddu’r gwasanaethau gorau y gallwn eu darparu iddynt yng Nghymru. ‘Yn ystod ein hadolygiad, yr ydym wedi clywed tystiolaeth druenus gan y bobl ifanc ddigartref eu hunain a chan y bobl sy’n darparu gwasanaethau iddynt. Mae hyn wedi atgyfnerthu ein penderfyniad i sicrhau bod sefydliadau a phobl sydd â’r medrau a’r adnoddau ar gael i’w helpu ar adeg o argyfwng iddynt.’ Caiff adroddiad y pwyllgor ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc ei lansio am 12.45pm ddydd Mercher 7 Chwefror yn yr Oriel, y Senedd, Bae Caerdydd. Trafodir yr adroddiad yn y cyfarfod llawn y prynhawn hwnnw.