Mae angen gwell hyfforddiant a dulliau gwell o godi ymwybyddiaeth i fynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â HIV mewn lleoliadau gofal iechyd

Cyhoeddwyd 17/05/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen gwell hyfforddiant a dulliau gwell o godi ymwybyddiaeth i fynd i’r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â HIV mewn lleoliadau gofal iechyd

17 Mai 2010

Mae angen gwneud mwy i sicrhau na wahaniaethir yn erbyn pobl sy’n byw gyda HIV mewn lleoliadau gofal iechyd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (17 Mai) gan Bwyllgor Cyfle Cyfartal y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’r adroddiad gan grwp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad yn argymell y dylid rhoi gwell hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n trin pobl sydd â HIV, ac y dylid cael ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd i chwalu’r mythau sy’n gysylltiedig â’r feirws.

Clywodd y Pwyllgor fod cleifion sydd â HIV yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu cyfeirio at arbenigwyr yn ddianghenraid pan y gallant gael gofal iechyd cyffredinol, ond mae tystiolaeth gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn awgrymu eu bod yn credu eu bod yn gweithredu er lles pennaf y cleifion.

I fynd i’r afael â hyn, mae’r adroddiad yn argymell bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant mwy effeithiol ac y dylid ei gwneud yn haws iddynt gael gafael ar arbenigwyr HIV.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r ffaith y gallai pobl sydd â HIV fod yn anfodlon gwneud cwyn ffurfiol o wahaniaethu rhag ofn iddynt beryglu unrhyw driniaeth yn y dyfodol. Felly, argymhellir bod elusennau HIV ac AIDS yn dechrau hysbysu byrddau iechyd lleol yn anffurfiol ynglyn ag achosion o wahaniaethu yn eu sefydliadau.

Mae argymhelliad arall yn yr adroddiad yn gofyn i Lywodraeth Cymru dargedu’r stigma sy’n gysylltiedig â’r feirws drwy annog byrddau iechyd lleol i gyflwyno profion rheolaidd i sgrinio am HIV yn hytrach na thargedu grwpiau risg uchel yn unig.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Nid yw’n dderbyniol bod unrhyw berson sy’n byw gyda HIV yn wynebu gwahaniaethu gan ddarparwyr gofal iechyd, ac er i rai gwelliannau gael eu gwneud, mae gwaith i’w wneud o hyd.

“Un o’r prif bwyntiau y mae’r ymchwiliad hwn wedi’i amlygu yw bod gwahaniaeth barn ynglyn ag a yw ymddygiad gwahaniaethol yn deillio o ddiffyg gwybodaeth a phrofiad, neu’n adlewyrchu agweddau gwahaniaethol neu ragfarnllyd.

“Felly, mae argymhelliad y Pwyllgor y dylid rhoi gwybodaeth ddigonol i weithwyr gofal iechyd yn hynod o bwysig.

“Rwy’n gobeithio y bydd yr argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor yn yr adroddiad hwn yn helpu i wella sefyllfa’r rheiny sy’n byw gyda HIV ac yn sicrhau eu bod yn cael eu trin yr un mor gyfartal â phobl eraill.”

Y Pwyllgor Cyfle Cyfartal