Mae angen gwella gwasanaethau trafnidiaeth i bobl anabl, meddai un o Bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 10/02/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen gwella gwasanaethau trafnidiaeth i bobl anabl, meddai un o Bwyllgorau’r Cynulliad

10 Chwefor 2011

Mae angen gwneud mwy i  sicrhau y gall pobl anabl fanteisio’n llawn ar wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru, yn ôl Pwyllgor Cyfle Cyfartal Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae’r adroddiad gan y grŵp trawsbleidiol o Aelodau Cynulliad yn tynnu sylw at bryderon nad yw Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol na darparwyr trafnidiaeth yn ymgynghori digon â grwpiau ar gyfer pobl anabl yn ystod y cyfnod o ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth.

Mae’r adroddiad yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad parhaus â grwpiau ar gyfer pobl anabl wrth iddi gyflwyno ei Chynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu polisi’r Llywodraeth o ddarparu’r hawl i deithio am ddim ar fysiau i bobl hŷn a phobl anabl, ond mae’n galw ar y Llywodraeth i ddiogelu’r polisi yn yr hinsawdd ariannol bresennol.

Clywodd hefyd fod y broses o wneud cais am gerdyn bws rhatach yn anghyson ac yn defnyddio iaith sy’n dramgwyddus i bobl sydd ag anawsterau dysgu. Mae’n argymell cyflwyno ffurflen gais gyffredin, hawdd ei defnyddio er mwyn goresgyn hyn.

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth, hefyd, ynghylch materion sy’n wynebu pobl anabl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig sy’n dibynnu ar dacsis fel eu dull o deithio, gan gynnwys nifer annigonol o dacsis hygyrch.

Rhai o argymhellion eraill yr adroddiad yw hyfforddi gyrwyr yn well, gwybodaeth fwy hygyrch a’r angen am gynlluniau trafnidiaeth gymunedol fwy effeithiol.

Dywedodd Ann Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Cafodd yr ymchwiliad hwn ei lywio a’i ffurfio gan yr union bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn, felly mae argymhellion yr adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth.

“Clywsom am anghysonderau o ran gwneud cais am gerdyn bws rhatach a defnyddio’r cerdyn hwnnw, diffyg hygyrchedd ac argaeledd gwybodaeth am drafnidiaeth, diffyg cerbydau sydd ar gael i’w hurio’n breifat a pheryglon posibl llwybrau a gaiff eu rhannu.  

“Dywedodd cynrychiolwyr sefydliadau ar gyfer pobl anabl mai effaith y materion hyn yw eu bod yn gwaethygu’r anfanteision sy’n bodoli eisoes, gan rwystro pobl anabl rhag defnyddio gwasanaethau addysg, cyflogaeth ac iechyd, a mynd i ddigwyddiadau cymdeithasol, sy’n gwaethygu’r allgáu cymdeithasol a gaiff ei deimlo ganddynt yn barod.

“Er ein bod yn croesawu’r cynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y maes hwn, rydym am i’n hargymhellion gael eu hystyried fel y gall pobl anabl fanteisio ar agenda drafnidiaeth flaengar sydd wedi’i chydgysylltu’n dda ac sy’n diwallu eu hanghenion unigol yn well.”