Mae angen gwelliannau sylweddol ar un o Filiau Llywodraeth Cymru iddo gael effaith ystyrlon, yn ôl Pwyllgor Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Cyhoeddwyd 28/11/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/05/2015

​Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod angen gwelliannau sylweddol i'r Bil Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) er mwyn iddo gael effaith ystyrlon.

Amcan y Bil yw rhoi datblygu cynaliadwy wrth wraidd llywodraeth a chyrff cyhoeddus, a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl yng Nghymru.  Mae'r Bil yn nodi cyfres o gynigion a fydd yn rhoi dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i ystyried effaith polisïau ar 'lesiant' dinasyddion, gan gynnwys chwe gôl llesiant ar gyfer cyflawni hyn.  Yr amcan yw creu Cymru ffyniannus, wydn, iachach a mwy cyfartal; Cymru o gymunedau cydlynol sy'n ferw o ddiwylliant a lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. 

 

Mae'r Bil yn cynnig creu byrddau gwasanaethau cyhoeddus statudol ledled Cymru - byrddau lle mae cynghorau lleol, byrddau iechyd, awdurdodau tân a Chyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i wella canlyniadau ar gyfer pobl leol.  Byddai hefyd yn creu Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i Gymru, i hyrwyddo'r egwyddor datblygu cynaliadwy ac asesu sut mae cyrff cyhoeddus yn bodloni eu hamcanion llesiant. 

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan ystod eang o randdeiliaid, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn dweud bod angen gwelliannau i'r Bil er mwyn iddo gyflawni'r nodau hyn.

Mae'r Pwyllgor wedi gwneud cyfres o argymhellion y mae'n credu y byddant yn cryfhau'r Bil.  Mae'r prif argymhellion yn cynnwys:

  • Diwygio'r egwyddor datblygu cynaliadwy er mwyn adlewyrchu'r materion ehangach yn niffiniadau Un Gymru Un Blaned a Brundtland o ddatblygu cynaliadwy, yn enwedig o ran newid yn yr hinsawdd, defnyddio ein cyfran deg o adnoddau'r ddaear, terfynau amgylcheddol ac effaith ryngwladol yr hyn a wnawn yng Nghymru.

  • Egluro, cryfhau a diwygio geiriad y nodau llesiant i adlewyrchu'r sylwadau lawer a wnaed gan randdeiliaid a'r canfyddiadau yn adroddiad interim y Sgwrs Genedlaethol.  Yn benodol, dylai'r nodau fynd i'r afael â materion allweddol fel terfynau amgylcheddol, adfer bioamrywiaeth, effeithiau rhyngwladol a chyfiawnder cymdeithasol, a dylai'r iaith a ddefnyddir yn y nodau fod yn glir ac yn ddiamwys.

  • Cyflwyno gwelliannau i'w gwneud yn glir bod darpariaethau'r Bil yn berthnasol i holl swyddogaethau, gweithgareddau a phenderfyniadau cyrff cyhoeddus, gan sicrhau bod cwmpas swyddogaethau rôl y Comisiynydd yn cynnwys pob un o'r gweithgareddau, swyddogaethau a phenderfyniadau hynny.

  • Dylai'r broses ar gyfer penodi Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol fod yn un drawsbleidiol a dylai gynnwys rhanddeiliaid, o bosibl ar ffurf panel penodi a fyddai'n gwneud argymhellion i'r corff penodi.

Yn ôl Alun Ffred Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd yn y Cynulliad:

"Cefnogodd Aelodau'r Pwyllgor fwriad polisi'r Bil yn unfrydol ac rydym yn credu bod Llywodraeth Cymru i'w chanmol am gyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn. 

"Mae'n ddeddfwriaeth bwysig, felly mae'n siomedig bod rhanddeiliaid wedi nodi cynifer o ddiffygion yn y Bil fel ag y mae.

"Rydym yn cytuno â barn y mwyafrif o'r rhai a roddodd dystiolaeth, sef bod angen gwelliannau sylweddol er mwyn i'r Bil gael unrhyw effaith ystyrlon.

"Rydym yn croesawu bwriad polisi'r Bil, a chredwn y gall fod yn effeithiol, os caiff ei ddiwygio'n sylweddol."

"Byddai'n drueni mawr pe na bai brwdfrydedd cynifer ar gyfer deddfu dros ddatblygu cynaliadwy yng Nghymru yn troi'n Fil a allai wneud gwahaniaeth go iawn.  Rydym yn gobeithio y bydd y Gweinidog yn gwrando ar y pryderon a godwyd yn ein hadroddiad ac yn cyflwyno'r gwelliannau yr ydym yn credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y gall y Bil hwn gyflawni ei hamcanion."