Mae angen gwneud mwy i gau'r bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol yn ôl un o Bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 27/02/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/02/2015

​Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi amlinellu 12 o argymhellion i Lywodraeth Cymru sydd eu hangen, yn ôl y Pwyllgor, i gau'r bwlch o ran cyrhaeddiad i blant o deuluoedd incwm isel yng Nghymru.

Cyhoeddwyd adroddiad yr ymchwiliad i Ganlyniadau Addysgol Plant o Gartrefi Incwm Isel ar ôl ystyried tystiolaeth lafar ac ysgrifenedig gan y Gweinidog Addysg, Estyn, Sefydliad Bevan, Achub y Plant a nifer o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru.

Dywedodd Ann Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg:

"Mae Llywodraeth Cymru yn wynebu heriau sylweddol o ran cau'r bwlch rhwng cyrhaeddiad plant o deuluoedd incwm isel a phlant eraill.

"Er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud yn y cyfnodau allweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae angen inni gydnabod maint y newid sydd ei angen i ateb yr her.

"Nod yr ymchwiliad oedd adolygu effeithiolrwydd polisïau Llywodraeth Cymru ac rydym wedi gwneud 12 o argymhellion a fyddai'n rhoi'r cyfle gorau i blant o deuluoedd incwm isel yng Nghymru i leihau'r bwlch o ran cyrhaeddiad, yn ein barn ni."