Mae angen i gynllun Glastir wneud mwy i wella ein hamgylchedd naturiol yn ôl adroddiad y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 12/03/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/03/2015

Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud nifer o argymhellion y cred y mae eu hangen er mwyn helpu cynllun Glastir i alluogi ffermwyr i wella ein hamgylchedd naturiol.

Bwriad cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir yw gwella cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd yng Nghymru. Yn dilyn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ym mis Medi 2011, cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad byr, gan geisio tystiolaeth gan sefydliadau amgylcheddol a ffermio allweddol, yn ogystal â Llywodraeth Cymru.

Roedd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar dri phrif fater:

  • Sut y gallai’r cynllun gefnogi mwy o newid mewn arferion ar ffermydd sy’n rhan o’r cynllun
  • Sut y gallai'r cynllun fod yn un o amrywiaeth o ymyriadau i fynd i’r afael ag arferion gwael ar ffermydd
  • Sut y gallai gwaith gweinyddol y cynllun sicrhau gwerth gwell am arian

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:

“Fel y dangosodd adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Medi 2014, er bod cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir yn well na chynlluniau blaenorol, gellir gwneud mwy i wella effeithiolrwydd a gwerth am arian Glastir.

“Gobeithio y bydd adroddiad y Pwyllgor yn helpu i lywio datblygiad y cynllun yn y dyfodol ac yn helpu Llywodraeth Cymru, tirddeiliaid ac eraill, i hyrwyddo gwelliant amgylcheddol ym mhob rhan o’r wlad.” 

Adroddiad Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Glastir (PDF, 374KB)