Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn fwy arloesol gyda ffynonellau cyllido

Cyhoeddwyd 31/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/11/2019

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cynnal ymchwiliad i’r ffynonellau cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ac wedi edrych yn fanwl ar effeithiolrwydd ei strategaeth ariannu. 

Yn 2014, rhoddodd Deddf Cymru bwerau benthyca cyfalaf i Lywodraeth Cymru. Roedd y Ddeddf hon, ynghyd â Deddf Cymru 2017 a’r fframwaith cyllidol, yn sefydlu terfyn blynyddol o £150 miliwn ar fenthyca cyfalaf ar gyfer Llywodraeth Cymru. 

Yn ei ymchwiliad, roedd y Pwyllgor Cyllid am ddarganfod sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r ffrydiau cyllido sydd bellach ar gael iddi o ganlyniad i’r newidiadau cyllidol hyn, ac asesu buddion a risgiau modelau cyllido penodol y mae’n eu defnyddio.

Cynllunio cyfalaf


Canfu’r Pwyllgor, er bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r pwerau benthyca newydd, fod rhanddeiliaid yn aneglur ynghylch sut y mae’n blaenoriaethu prosiectau a chynlluniau ar sail strategol. Mae’r Pwyllgor o’r farn, pe bai Llywodraeth Cymru yn cynllunio dros y tymor hwy, a bod ffynonellau cyllid yn cael eu paru â phrosiectau seilwaith, y byddai’n haws sefydlu’r benthyca cyfalaf y bydd ei angen yn y dyfodol.    


Pwerau benthyca


Croesawodd mwyafrif Aelodau’r Pwyllgor ymdrechion Llywodraeth Cymru i geisio pwerau benthyca, gan gredu y byddai pwerau o’r fath yn galluogi gweithredu rhaglen seilwaith cyfalaf fwy cynhwysfawr yng Nghymru. Roeddent yn cydnabod yr achos a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru dros sicrhau cynnydd o ran benthyca, er mwyn caniatáu dull rhesymegol o fenthyca cyfalaf. Byddai’r Pwyllgor yn cefnogi’r cam o gynyddu terfynau benthyca Llywodraeth Cymru i helpu i gyflawni blaenoriaethau buddsoddi.

Modelau Cyllido


Mae’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) wedi ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru i ddarparu dros £1 biliwn i ariannu seilwaith cyhoeddus yng Nghymru. O dan gynlluniau’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol byddai partneriaid preifat yn creu ac yn cynnal asedau cyhoeddus. Yn gyfnewid am hyn, byddai Llywodraeth Cymru yn talu ffi i’r partner preifat i dalu costau adeiladu, costau cynnal a chadw a chostau cyllido’r prosiect. Ar ddiwedd y contract byddai’r ased yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, ni ddaeth y Pwyllgor o hyd i wahaniaeth sylweddol rhwng y Model Buddsoddi Cydfuddiannol a’r Fenter Cyllid Preifat (PFI), yn benodol o ran sut mae’r Model yn cynnig gwell gwerth am arian na modelau Menter Cyllid Preifat blaenorol.  


Roedd y Pwyllgor eisiau sicrwydd y bydd y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn darparu contractau sy’n hyblyg, ac yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau. Yn ogystal, canfu’r Pwyllgor nad oedd yn glir sut mae’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn lleihau costau cyllido i’r eithaf, o’i gymharu â Menter Cyllid Preifat Llywodraeth y DU a’i olynydd Cyllid Cyhoeddus 2 (PF2).


Dywedodd Llyr Gruffydd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid:
 
“Mae’n galonogol gweld y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddefnyddio’i phwerau benthyca newydd yn llawn. Fodd bynnag, mae angen i ni weld tystiolaeth bod cynllunio tymor hwy yn digwydd.  Rwyf hefyd yn gobeithio gweld Llywodraeth Cymru yn fwy arloesol gyda ffynonellau cyllid, yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus a’r sector preifat i ysgogi newidiadau i’r seilwaith.

“Er bod rhai manteision i’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, roedd yn anodd gweld y gwahaniaethau o ran y Fenter Cyllid Preifat (PFI), ond gobeithio y gwelwn welliannau tymor hwy.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion sy’n cynnwys:
  • Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cynlluniau buddsoddi mewn seilwaith yn y tymor hwy, sy’n blaenoriaethu ac yn dyrannu ffynonellau cyllid i brosiectau i sicrhau bod darlun clir o faint o fenthyca fydd ei angen yn y blynyddoedd i ddod.
  • Mae’r Pwyllgor yn cydnabod yr achos a wnaed gan Lywodraeth Cymru dros gynyddu benthyca er mwyn caniatáu dull rhesymegol o fenthyca cyfalaf, a byddai’n cefnogi cynyddu terfynau benthyca Llywodraeth Cymru i helpu i gyflawni’r blaenoriaethau buddsoddi. Cytunodd mwyafrif yr Aelodau y dylai Llywodraeth Cymru barhau i geisio pwerau benthyca darbodus.
  • Mae’r Pwyllgor yn nodi’r dystiolaeth am PFI a’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol, ac yn cytuno bod y Model yn cynrychioli gwelliant ar agweddau megis manteision cymunedol a goruchwylio contractau prosiect.  Fodd bynnag, mae’n anodd darganfod sut mae’r Model yn sylweddol wahanol i’r PFI.  Hefyd, ychydig o dystiolaeth a gyflwynwyd ynghylch sut mae’r Model yn cynnig mwy o werth am arian na’r modelau PFI blaenorol.

 

Darllen yr adroddiad llawn:

Y Pwyllgor Cyllid - Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru (PDF, 1015 KB)