Mae angen i Lywodraeth Cymru gael ‘gafael cadarnach’ ar fonitro Grantiau Gwella Addysg, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 21/02/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/02/2017

​Mae angen i Lywodraeth Cymru gael ‘gafael llawer cadarnach’ ar sut y mae’n monitro Grantiau Gwella Addysg (EIG), yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Penderfynodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg edrych ar y mater, ar ôl i weinidogion gyfuno cyfres o grantiau sydd wedi’u cynllunio i gefnogi grwpiau penodol.

Yn benodol, canolbwyntiodd ar yr effaith ar ddysgwyr sy’n Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig, gan mai’r grwpiau hyn sydd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o gymharu ag unrhyw grŵp yng Nghymru. Roedd dau o’r cyn grantiau, a oedd wedi’u neilltuo, yn canolbwyntio ar y ddau grŵp hyn.

Pan benderfynodd y Pwyllgor gynnal yr ymchwiliad hwn, roedd y data diweddaraf a oedd ar gael (2013-2015) yn dangos bod 15.5 y cant o ddisgyblion Sipsiwn/Roma wedi ennill pump neu fwy TGAU graddau A*-C, gan gynnwys Saesneg/Cymraeg a Mathemateg. Roedd hyn yn cymharu â 56 y cant o’r holl ddisgyblion a 27.8 y cant o ddisgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, sy’n ddull a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer adnabod plant o dan anfantais.

Roedd ffigurau diweddarach, a ryddhawyd ym mis Ionawr 2017, yn dangos gwelliant ar gyfer 2014-2016, gyda bron chwarter y disgyblion yn ennill pump neu fwy TGAU graddau A* -C, o’i gymharu â chyfartaledd Cymru o 59 y cant.

Canfu’r Pwyllgor bod y cyn grantiau a oedd wedi’u neilltuo wedi’u harchwilio’n drylwyr, gyda lefelau uchel o atebolrwydd o ran sut y gwariwyd yr arian a sut yr oedd y dysgwyr hyn yn elwa ohono.

Daeth yn amlwg mai cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol eu hunain bellach yw monitro a gwerthuso’r Grant Gwella Addysgu, ond ychydig iawn o dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor eu bod yn gwneud hyn yn ddigonol ar hyn o bryd.

Clywodd yr Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno fframwaith perfformiad o ran defnyddio’r GGA, ond mae’r amcanion hyn ar lefel-uchel iawn ac ychydig iawn o gyfeiriadau penodol at sipsiwn, Roma a theithwyr, a dysgwyr lleiafrifoedd ethnig sydd ynddynt.

Nododd y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol eu bod yn disgwyl rhagor o fanylion ar ddeilliannau o ran y GGA gan Lywodraeth Cymru, ac nid oedd yn ymddangos bod cydweithio effeithiol ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Mae’r Pwyllgor yn pryderu ynghylch y diffyg monitro sut y caiff y Grant Gwella Addysg ei ddefnyddio, yn benodol ar gyfer y grwpiau hyn o ddysgwyr, a’r diffyg gwerthuso o ran y deilliannau a’r effaith y mae’r grant yn ei chael ar eu cyflawniad addysgol.

Oherwydd y diffyg monitro effeithiol, sy’n eu pryderu, daeth yr Aelodau i’r casgliad nad oedd unrhyw dystiolaeth a oedd yn dangos a fu’r cyfuno grantiau yn gam buddiol ai peidio.

Mae’r Pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwella’r trefniadau ar gyfer monitro a gwerthuso, gan barhau i adolygu mater cyffredinol y model ariannu, a’i bod yn ystyried y mater hwn eto cyn diwedd y Cynulliad hwn.

Dywedodd Lynne Neagle AC , Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg: "Cynhaliodd y Pwyllgor ymchwiliad byr, penodol i asesu’r effaith yr oedd y system Grant Gwella Addysg newydd yn ei chael ar y rhai y cafodd ei chynllunio i’w cefnogi, yn arbennig plant o gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ac o grwpiau lleiafrifoedd ethnig."

"Yr hyn a welsom oedd diffyg monitro effeithiol, ac nad oedd Llywodraeth Cymru, y consortia addysg rhanbarthol ac awdurdodau lleol, yn ôl pob golwg, yn cydweithio’n effeithiol.

"Mae hyn yn gwneud y gwaith o fesur effeithiolrwydd y system grantiau symlach, newydd hon yn anodd, gan nad oes gennym unrhyw ffordd o wybod a yw’n cael effaith gadarnhaol neu effaith negyddol ar y plant y mae angen y cymorth ychwanegol hwn arnynt.

"Mae’r ffigurau diweddaraf a ryddhawyd ar gyrhaeddiad addysgol yn rhoi darlun mwy calonogol, ond ni allwn ddweud yn benodol ai’r trefniadau ariannu newydd sy’n gyfrifol am hyn.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i gael gafael llawer mwy pendant o ran y ffordd y caiff y Grant Gwella Addysg ei fonitro, a bod y consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol yn deall y disgwyliadau’n glir.

"Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwella’r trefniadau ar gyfer monitro a gwerthuso, gan barhau i adolygu mater cyffredinol y model ariannu, a’i bod yn ystyried y mater hwn eto cyn diwedd y Cynulliad hwn."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud 14 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru barhau i adolygu’r model gorau ar gyfer ariannu gweithgarwch i gefnogi deilliannau addysgol dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig;
  • Dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r trefniadau y mae wedi’u rhoi ar waith i fonitro’r defnydd o’r Grant Gwella Addysg a gwerthuso’i effaith, yn benodol mewn perthynas â deilliannau addysgol dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig;
  • Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar frys i adolygu effeithiolrwydd y fframwaith perfformiad addysg y mae’n disgwyl i’r consortia rhanbarthol a’r awdurdodau lleol ei ddefnyddio i werthuso deilliannau’r Grant Gwella Addysg;
  • Dylai Llywodraeth Cymru ofyn i Estyn gynnal adolygiad thematig o’r ddarpariaeth addysgol ar gyfer dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a dysgwyr o leiafrifoedd ethnig, gan roi’r diweddaraf ar y sefyllfa ers ei adroddiad thematig diwethaf yn 2011; a
  • Dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i wella deilliannau addysgol ymhlith dysgwyr Sipsiwn, Roma a Theithwyr a lleiafrifoedd ethnig sydd â chyrhaeddiad is na’r cyfartaledd.

Darllenwch yr adroddiad