Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflymu'r broses o gydweithio mewn llywodraeth leol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 04/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflymu'r broses o gydweithio mewn llywodraeth leol, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

4 Rhagfyr 2013

Mae angen i Lywodraeth Cymru gyflymu'r broses o gydweithio rhwng awdurdodau lleol, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol wedi dod i'r casgliad y dylai unrhyw strwythur llywodraeth leol yn y dyfodol ganolbwyntio, fel blaenoriaeth, ar y ffordd y dylid darparu gwasanaethau.

Mae'r Pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru i ddangos arweiniad cryf, gyda chosbau a chymhellion i fwrw ymlaen â chydweithio.

Fodd bynnag, mae hefyd yn awyddus i weld awdurdodau'n canolbwyntio ar y meysydd hynny lle bydd cydweithio yn cynnig y canlyniadau mwyaf buddiol, yn hytrach na gwneud hynny drwyddi draw.

Yn ystod yr ymchwiliad, dywedodd tystion wrth y Pwyllgor nad yw partneriaethau a rhannu adnoddau yn ateb syml, ac felly mae'n argymell y dylai unrhyw drefniadau o'r fath fod yn destun astudiaethau cost a budd trylwyr.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol: "Mae awdurdodau lleol ar draws y wlad yn ystyried effaith toriadau yn y gyllideb a achoswyd gan yr hinsawdd economaidd.

"Mae yna benderfyniadau anodd o'n blaenau, ond mae'r Pwyllgor yn credu bod ansawdd y gwasanaeth yn hollbwysig ac y dylai hynny fod yn flaenoriaeth.

"Dyna pam rydym am weld Llywodraeth Cymru yn dangos arweiniad cryf o ran cyflymu'r broses hon, a chanolbwyntio mwy ar y meysydd hynny lle bydd cydweithio yn cynnig y canlyniadau mwyaf buddiol, yn hytrach na gwneud hynny drwyddi draw."

Mae’r Pwyllgor yn gwneud pum argymhelliad yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Bod angen arweiniad cryf gan Weinidogion, a dulliau o gosbi a chymell i wthio'r agenda cydweithio yn ei blaen ym myd llywodraeth leol;

  • Dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar feysydd lle bydd trefniadau cydweithio'n arwain at y manteision mwyaf posibl, yn hytrach na dilyn polisi cyffredinol o annog gwasanaethau i gydweithio mwy ym mhob maes; a

Dylai Llywodraeth Cymru gynnal dadansoddiad pellach o gost a budd prosiectau cydweithio rhwng awdurdodau lleol, gan gynnwys buddion nad ydynt yn ariannol, a chyhoeddi ei chasgliadau.

Adroddiad: Cynnydd o ran cydweithio ar lefel llywodraeth leol