Mae angen i Ofal Iechyd Parhaus y GIG ganolbwyntio ar anghenion cleifion, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 05/12/2013   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen i Ofal Iechyd Parhaus y GIG ganolbwyntio ar anghenion cleifion, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol

5 Rhagfyr 2013

Yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol, mae angen i Ofal Iechyd Parhaus y GIG ganolbwyntio ar anghenion cleifion.

Canfu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG, sef canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau iechyd, yn cael ei roi ar waith yn anghyson ledled y wlad a bod diffyg dealltwriaeth ymysg y cyhoedd ynghylch pwy sy'n gymwys i gael cyllid a sut y gallant wneud hawliad.

Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn becyn gofal a chymorth a ddarperir i fodloni holl anghenion unigolion sydd wedi'u hasesu, gan gynnwys anghenion yn ymwneud â gofal corfforol, meddyliol a phersonol.

Yn ôl byrddau iechyd Cymru, roedd dros 5,500 o bobl yn cael Gofal Iechyd Parhaus ddiwedd mis Mawrth 2012.

Roedd y Pwyllgor yn pryderu'n benodol am yr effaith ar gleifion a'u teuluoedd yn sgîl yr oedi o ran gwneud penderfyniadau'n ymwneud â hawliadau am Ofal Iechyd Parhaus, a allai arwain at weld rhai yn wynebu caledi ariannol tra yr ymdrinnir â cheisiadau.

Rhan o'r rheswm a roddwyd dros yr oedi hwnnw oedd prinder staff cyflogedig i brosesu'r hawliadau a bod hynny wedi creu ôl-gronniad. Nod Llywodraeth Cymru yw clirio'r ôl-groniad o fewn dwy flynedd.

Hoffai'r Pwyllgor i hawliadau gael eu prosesu yn ôl amgylchiadau unigolion a'u teuluoedd, yn hytrach na'r system 'cyntaf i'r felin' sy'n cael ei gweithredu ar hyn o bryd.

Dywedodd Darren Millar AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: “Mae pobl y mae angen Gofal Iechyd Parhaus arnynt yn haeddu system sy'n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan fel y gallant ganolbwyntio ar eu triniaeth a'r cymorth y maent yn ei gael heb straen a dryswch diangen.

“Ond, mae'r Pwyllgor wedi canfod system sy'n cael ei rhoi ar waith yn anghyson ledled y wlad ac sy'n rhoi straen ar sefyllfa ariannol unigolion a theuluoedd wrth i hawliadau gael eu herio neu eu prosesu.

“Rydym yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd ers y cyhoeddwyd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ofal iechyd parhaus yn gynharach eleni, ond rydym eisiau mwy o wybodaeth ynghylch sut y bydd Gweinidogion yn gwella amseriad penderfyniadau, gwella cysondeb a sicrhau system deg lle y gall pobl gael gafael ar y gofal sydd ei angen arnynt.”

Mae’r Pwyllgor yn gwneud naw o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys y canlynol:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried blaenoriaethu ceisiadau yn ôl amgylchiadau unigolion a'u teuluoedd;

  • Bod angen dull rhagweithiol i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei darparu i'r rhai y mae ei hangen arnynt, gan eu galluogi i herio penderfyniadau ar gymhwysedd. Dylai gwybodaeth o'r fath fod yn glir ac yn syml; a

Bod Llywodraeth Cymru yn rhoi diweddariad cynnydd interim i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar glirio ceisiadau ym mis Mawrth 2014, ac yn rhoi diweddariad pellach ym mis Medi 2014 ar ôl dyddiad terfyn mis Mehefin 2014.

Adroddiad: Gweithredu’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG