Mae angen i wasanaethau ambiwlans yng Nghymru wella eu hamseroedd ymateb yn ôl Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad

Cyhoeddwyd 02/04/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 02/04/2015

Yn dilyn ymchwiliad diweddar, mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ysgrifennu at Vaughan Gething AC, y Dirprwy Weinidog Iechyd, i amlinellu'r camau sydd eu hangen i wella perfformiad amseroedd ymateb gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru.

Mae llythyr y Pwyllgor yn nodi wyth maes lle mae angen cynnydd. Mae'r rhain yn cynnwys yr angen i fyrddau iechyd lleol ymgysylltu mwy â gwaith Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; yr angen i fynd i'r afael â'r mater o ambiwlansys sy'n cael eu 'tynnu' o'u hardaloedd; a'r angen i leihau nifer yr oriau a gollir o ganlyniad i achosion o oedi wrth drosglwyddo cleifion.

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

"Fel Pwyllgor, rydym yn cydnabod bod y gwasanaeth ambiwlans brys yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau iechyd i bobl Cymru. Yn unigol, mae staff rheng flaen y gwasanaeth ambiwlans yn cyflawni rolau heriol i safonau uchel ac yn darparu cymorth a chefnogaeth i bobl ar adegau o angen ond, ar y cyfan, nid yw perfformiad amseroedd ymateb y gwasanaeth ambiwlans yn cyrraedd y lle y dylai.

"Rydym yn cydnabod yr arweinyddiaeth gref a ddangosir gan brif weithredwr newydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a'r camau ymarferol y mae wedi eu cymryd i sicrhau newid diwylliannol a gwella perfformiad. Er gwaethaf hyn, nid yw'r Pwyllgor yn argyhoeddedig bod perfformiad yn gwella yn ddigon cyflym."

 

Mae llythyr y Pwyllgor (PDF 221KB)

Mae'r Pwyllgor yn bwriadu cynnal sesiynau tystiolaeth pellach mewn cysylltiad â'r gwasanaethau ambiwlans yn ddiweddarach eleni.