Mae angen llais ar Blant a Phobl Ifanc yn y Cynulliad nesaf, medd adroddiad newydd

Cyhoeddwyd 29/03/2011   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae angen llais ar Blant a Phobl Ifanc yn y Cynulliad nesaf, medd adroddiad newydd

29 Mawrth 2011

Bydd mwy o angen llais ar blant a phobl ifanc Cymru nag erioed yn y Cynulliad Cenedlaethol wrth iddo fynd i’w bedwerydd tymor, yn ôl adroddiad newydd.

Bydd y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc presennol, y cyntaf o’i fath yn Ewrop pan gafodd ei sefydlu, yn peidio â bodoli pan fydd y Cynulliad yn cael ei ddiddymu ar 1 Ebrill.

Yn ystod ei bedair blynedd mae wedi mynd i’r afael â phynciau fel darparu gwasanaethau eirioli ar gyfer pobl ifanc, tlodi plant, cyllidebu ar gyfer plant, trefniadau rhoi plant mewn gofal a darparu mannau diogel i chwarae a chymdeithasu yng Nghymru.

Yn ei adroddiad etifeddiaeth a gyhoeddir heddiw (29 Mawrth), mae’r Pwyllgor yn amlinellu tystiolaeth a dderbyniodd yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc ar draws y wlad. Daeth rhai ohonynt i gyflwyno tystiolaeth i aelodau yn y Senedd a rhai drwy gyswllt fideo.

Ymhlith eu pryderon roedd materion yn ymwneud â bwlio, diogelwch ar-lein, yr amgylchedd, bwyta’n iach, addysg a chludiant.

Dywedodd Helen Mary Jones AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn llais hanfodol yn y Cynulliad Cenedlaethol i’r rhai hynny a fyddai, fel arall, yn brwydro i gael eu clywed.

“Yn ystod pedair blynedd gyntaf y pwyllgor hwn rydym wedi ceisio ymgysylltu â phlant a phobl ifanc ar eu lefel hwy, gan fynd allan i’w cyfarfod, eu gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ar ba ffurf bynnag y dewisant a cheisio deall mwy am y ffordd y gallwn eu helpu.

“Bu’r profiad yn un amhrisiadwy a gwerthfawr i ni a gobeithio iddo fod yn ffordd iddynt hwy weld bod eu barn yn cyfrif.

“Cafodd gwaith y Pwyllgor hwn ei ganmol gan y sefydliadau a’r unigolion yr ydym yn cydweithio â hwy a hyd yn oed ar lefel ryngwladol gan gyrff deddfu eraill.

“Ond nid yw ein gwaith wedi’i orffen ac mae’n rhaid i ni barhau i ddatblygu a chynnwys ein plant a’n pobl ifanc yn y Pedwerydd Cynulliad.”

Mae adroddiad etifeddiaeth y Pwyllgor yn cynnwys pum argymhelliad i’r Pedwerydd Cynulliad:

  • Bod gwaith craffu ar ddarparu amcanion Teuluoedd yn Gyntaf yn cael ei wneud drwy gydol y Pedwerydd Cynulliad.

  • Bod rhagor o waith craffu ar wasanaethau eirioli yn cael ei wneud yn y Pedwerydd Cynulliad. Cafodd datblygiadau fel llinell gymorth eiriolaeth ‘Meic’ a’r Bwrdd Eiriolaeth Annibynnol Cenedlaethol eu croesawu gan y Pwyllgor, ond mae pryderon yn parhau i fodoli ynghylch y model comisiynu rhanbarthol.

  • Bod y mater o doiledau ysgol annigonol a thoiledau nad ydynt yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda yn destun gwaith craffu parhaus yn y Pedwerydd Cynulliad.

  • Bod gweithrediad y Strategaeth Tlodi Plant a gweithredoedd eraill a gynlluniwyd i leihau tlodi plant, ac yn arbennig tlodi plant difrifol yn cael eu craffu yn y pedwerydd Cynulliad.

  • Bod unrhyw bwyllgor olynol yn ystyried galw Gweinidogion sydd â phortffolios perthnasol i gyflwyno tystiolaeth ochr yn ochr â’r Dirprwy Weinidog dros Blant, os caiff swydd o’r fath ei chreu gan bedwaredd Llywodraeth y Cynulliad.

Gellir gweld detholiad o sylwadau gan unigolion a sefydliadau sydd wedi cyflwyno tystiolaeth i’r Pwyllgor isod:

“Roedd yn dda cael cyfarfod ag aelodau’r Pwyllgor i ddweud wrthynt sut yn union mae’n teimlo i dderbyn gofal a bod yn berson sy’n gadael gofal. Ni all unrhyw un ddweud sut brofiad ydyw oni bai ei fod wedi bod yn y sefyllfa ei hun. Gallwn ddweud fod gan aelodau’r Pwyllgor ddiddordeb mawr ac roeddent eisiau deall. Byddai’n dda gallu olrhain pa newidiadau sydd wedi digwydd i blant a phobl ifanc o ganlyniad i adroddiad y Pwyllgor.” – Katie, 19.

“Roeddwn am i bawb glywed yr hyn oedd gennym i’w ddweud ac i aelodau’r Pwyllgor sylweddoli ein bod am i dlodi newid er gwell, a deall hynny fel bod pobl yn hapus. Teimlais ein bod wedi perfformio’n cyflwyniadau’n llwyddiannus a theimlaf ein bod yn bendant wedi gwneud gwahaniaeth.” Courtney Bush, 15, Caerdydd.

“Roeddwn yn gobeithio y byddai pobl yn deall ystyr tlodi ac yn llwyddo i wneud gwahaniaeth. Teimlais yn falch o gynrychioli Llysgenhadon Ifanc Achub y Plant Cymru .” Paige Courtney, 15, Caerdydd.

“Mae’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi sicrhau bod materion plant wedi aros ar agenda Llywodareth Cynulliad Cymru. Yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, mae’r Pwyllgor wedi canfod materion allweddol ar gyfer plant a phobl ifanc, wedi gwrando arnynt a’u cynnwys ac wedi ffurfio argymhellion. Cafodd llawer ohonynt eu derbyn a’u rhoi ar waith gan Lywodraeth Cymru. Cred NSPCC Cymru/ Wales fod yn rhaid i amddiffyn plant fod yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth y Cynulliad nesaf fel y gellir osgoi rhagor o achosion trasig o gamdriniaeth gan fod un o bob pum plentyn a pherson ifanc yng Nghymru wedi profi camdriniaeth neu esgeulustod” – Des Mannion, pennaeth Gwasanaeth, NSPCC Cymru/Wales.

Yn ein barn ni, bu gwaith y Pwyllgor yn amhrisiadwy gan ei fod wedi gweithio’n ddiflino ar gyfres o adroddiadau ac ni fyddai hyn wedi digwydd yn unman arall. Mae wedi ymgysylltu â sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, gyda phlant a phobl ifanc eu hunain a gyda rhieni a gofalwyr drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys sesiynau tystiolaeth, ymgynghoriadau ac ymweliadau. Er ein bod wedi torri ffon i’n curo ein hunain o ran llwyth gwaith ar gyfer staff ac aelodau Plant yng Nghymru, rydym yn hapus iawn â’r canlyniadau ac nid oes gennym unrhyw amheuaeth nad yw’r canolbwyntio parhaus ar blant a phobl ifanc wedi cyfrannu’n gadarnhaol iawn at i Lywodraeth y Cynulliad weithredu a gwella bywydau plant a phobl ifanc Cymru. - Catriona Williams, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru.