Mae angen ‘newidiadau systemig’ ar gyfer rhagnodi meddyginiaethau gwrthseicotig yn briodol mewn cartrefi gofal yng Nghymru, yn ôl pwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 17/05/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 26/07/2018

​Yn ôl adroddiad newydd gan bwyllgor yn y Cynulliad Cenedlaethol, mae meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu rhagnodi yn amhriodol, a hynny, mewn nifer o achosion, fel y cam cyntaf ar gyfer trin symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia, yn hytrach nag fel yr opsiwn olaf, ac yn aml heb gynnal adolygiadau digonol na chadw cofnodion.

 

Clywodd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon fod meddyginiaethau gwrthseicotig yn gynyddol yn cael eu defnyddio mewn cartrefi gofal i 'reoli' ymddygiad heriol pobl sydd â dementia.

Mae'r Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn casglu, ac yn cyhoeddi, data safonol ar y defnydd a wneir o feddyginiaethau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal, gan adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar y cynnydd a wnaed cyn pen 12 mis.

Mae hefyd am sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau NICE ar ddementia, sy'n cynghori yn erbyn defnyddio unrhyw feddyginiaethau gwrthseicotig ar gyfer symptomau anwybyddol neu ymddygiad heriol dementia oni bai bod yr unigolyn mewn gofid difrifol neu mae perygl uniongyrchol o niwed iddynt hwy neu eraill.

Yn 2009, yn ôl adroddiad gan yr Athro Sube Banerjee ar ddefnyddio meddyginiaeth gwrthseicotig ar gyfer pobl â dementia, roedd yn ymddangos fel bod meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio'n rhy aml ar gyfer dementia ac, o'u defnyddio ar y lefel ddisgwyliedig honno, byddai'r risgiau fwy na thebyg yn drech nag unrhyw fanteision posibl.

Yn ystod y dystiolaeth, clywodd y Pwyllgor nad yw adolygiadau o feddyginiaethau yn digwydd yn ddigon aml ar gyfer pobl sydd â dementia, ac unwaith y bydd meddyginiaeth yn cael ei rhagnodi (gan gynnwys meddyginiaethau gwrthseicotig) mae'n aml yn mynd rhagddi gyda phresgripsiynau amlroddadwy am gyfnodau hir heb fonitro effeithiol. Mae hyn yn arbennig o bryderus gan fod pobl hŷn yn fwy tebygol o gael cyflyrau cronig cymhleth sy'n gofyn am sawl meddyginiaeth.

Mae'r Pwyllgor wedi galw am i bob unigolyn sydd â dementia sy'n dangos ymddygiad heriol gael asesiad gofal cynhwysfawr sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'i anghenion.

"Yn aml, mae ar unigolyn sydd â dementia sy'n dangos ymddygiad heriol angen nas diwallwyd efallai na all ei fynegi" meddai Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon.

"O'r herwydd, credwn ei bod yn hollbwysig edrych ar y person cyfan er mwyn deall beth allai fod yn achosi ymddygiad penodol.

"Gwyddom fod amryw restrau gwirio arfer da y gallai staff mewn cartrefi gofal eu defnyddio i nodi'r achosion posibl y tu ôl i ymddygiad unigolyn. Fodd bynnag, clywsom fod meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu defnyddio fel yr ateb diofyn mewn cartrefi gofal ac ar rai wardiau ysbyty, pan fo'n anodd o ran ymdrin â phobl sydd â dementia.

"Mae rhoi meddyginiaeth ddiangen i bobl mewn gofal sy'n agored i niwed yn fater difrifol o ran hawliau dynol y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef.

"Credwn fod angen newidiadau diwylliannol a systemig i sicrhau bod meddyginiaethau gwrthseicotig yn cael eu rhagnodi yn briodol, ac fel yr opsiwn olaf un, nid yr opsiwn cyntaf diofyn."

Mae'r Pwyllgor yn gwneud 11 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl fyrddau iechyd yn casglu ac yn cyhoeddi data safonol ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal ac yn cyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor hwn ar gynnydd o fewn 12 mis;

  • Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr holl fyrddau iechyd yn cydymffurfio'n llawn â chanllawiau NICE ar ddementia, sy'n cynghori yn erbyn y defnydd o unrhyw feddyginiaethau gwrthseicotig ar gyfer symptomau nad ydynt yn rhai gwybyddol neu ymddygiad heriol dementia oni bai bod yr unigolyn mewn gofid difrifol neu os oes perygl uniongyrchol o niwed iddynt hwy neu eraill, a chyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor ar y cyfraddau cydymffurfio o fewn 12 mis; ac

  • fewn chwe mis, y caiff safonau cenedlaethol eu datblygu ar gyfer hyfforddiant gofal dementia i roi'r sgiliau angenrheidiol i staff cartrefi gofal ymdrin ag ymddygiad heriol. Dylai hyfforddiant gofal dementia a hyfforddiant penodol i ymdrin ag ymddygiad heriol (fel y nodir yng nghanllawiau NICE: gan gynnwys technegau dad-ddwysau a dulliau atal corfforol) fod yn ofynion gorfodol ar gyfer holl staff cartrefi gofal a dylid craffu ar y cydymffurfiad â hyn fel rhan o drefn arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal (PDF, 1 MB)