Mae angen rhagor o fanylion am gostau uno llywodraeth leol yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad

Cyhoeddwyd 05/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2015

Mae Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi amlinellu nifer o gamau gweithredu y mae'n nodi sy'n angenrheidiol i sicrhau bod costau a buddion uno awdurdodau lleol yn cael eu darparu er mwyn i'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) fod yn effeithiol.

Prif nod y Bil yw galluogi paratoadau i gael eu gwneud ar gyfer rhaglen uno a diwygio llywodraeth leol a chaniatáu i Brif Awdurdodau Lleol uno'n wirfoddol erbyn mis Ebrill 2018. 

Dywedodd Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

"Mae'r Pwyllgor yn pryderu y bydd y Bil yn rhoi'r pŵer i Lywodraeth Cymru gymeradwyo uno gwirfoddol heb i gostau a manteision yr uno fod yn hysbys. 

"Rydym yn teimlo bod angen eglurder ynghylch sut y bydd costau'r uno gwirfoddol yn cael eu craffu ac rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol i baratoi cynllun clir ar gyfer sut y bydd yn amcangyfrif costau uno.

"Barn y Pwyllgor yw bod rhai meysydd y mae angen eu hystyried ymhellach mewn perthynas â throthwyon y pwyllgorau pontio ac mae'n argymell bod y Gweinidog yn adolygu'r elfen hon o'r Bil."

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid - Adroddiad ar y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) (PDF, 354KB)