“Mae argyfwng COVID-19 wedi dangos ei bod yn hollbwysig i bobl gael diogelwch ynghylch eu cartrefi.” – John Griffiths AS

Cyhoeddwyd 01/10/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/10/2020

  • Pwyllgor y Senedd yn cefnogi’r Bil Rhentu Cartrefi newydd

Mae COVID-19 wedi amlygu pwysigrwydd cael cartref diogel, yn enwedig yn y sector rhentu preifat. Nod Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) Llywodraeth Cymru yw ceisio cryfhau diogelwch i denantiaid, ac mae Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Senedd wedi cefnogi’r mesurau newydd.

Darllenwch adroddiad y Pwyllgor - Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Y prif newidiadau yn y Bil fydd dyblu hyd yr amser o ddechrau contract tenant gan ei ymestyn o 6 i 12 mis cyn y gall landlord adennill meddiant o eiddo. Mae'r newidiadau hyn yn rhoi diogelwch am 12 mis cyn y byddai'n rhaid i denant adael eiddo, pe na bai tor contract wedi digwydd. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru y byddai cynyddu isafswm y cyfnod rhybudd yn gwneud y sector rhentu preifat yn fwy “deniadol” i ddarpar denantiaid.

Monitro sut mae'r Bil yn gweithio i denantiaid

Nod y Bil hwn yw diwygio Deddf Rhentu Cartrefi 2016, sy'n cyflwyno newidiadau sylweddol i'r rheolau rhentu. Er bod y Pwyllgor yn cefnogi egwyddorion y newidiadau hyn – sef cynyddu diogelwch i denantiaid – cred y Pwyllgor ei bod yn bwysig iawn monitro'r newidiadau i sicrhau eu bod yn cyflawni eu hamcanion, gan gynnwys helpu tenantiaid.

Mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r modd y mae'r newidiadau hyn yn gweithio'n ymarferol, a monitro ymddygiad benthyca, cyflenwad tai, ymddygiad landlordiaid a nifer y bobl sy'n ddigartref o fwriad, a’r canlyniadau i'r bobl hyn.

Effeithlonrwydd y llysoedd

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gref bod effeithiolrwydd y Bil hwn, a Deddf Rhentu Cartrefi 2016, yn dibynnu ar weithredu effeithiol ac effeithlon ar ran y llysoedd.

Mae sefydliadau tai a chynrychiolwyr landlordiaid wedi galw am welliannau i systemau a phrosesau'r llysoedd, fel bod achosion o adfeddiannau'n fwy effeithlon ac yn haws i'w llywio yn ogystal â sicrhau tegwch i'r naill barti a’r llall.

Pwysleisiodd Llywodraeth Cymru y gwaith y mae’n yn ei wneud ar hyn o bryd gyda landlordiaid cymdeithasol ac awdurdodau lleol i atal achosion o droi allan o dai cymdeithasol – gan arwain at ddigartrefedd. Mae’n ystyried hyn fel ffordd allweddol o roi mwy o amser i’r llysoedd fynd i’r afael â cheisiadau meddiant cynyddol gan landlordiaid preifat, sy'n deillio o'r Bil hwn. Daw mwyafrif yr hawliadau meddiant sy'n mynd gerbron y llysoedd ar hyn o bryd o'r sector cymdeithasol, yn hytrach na'r sector rhentu preifat.

Yn ôl John Griffiths AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau:

“Rwy’n hyderus y bydd y Bil hwn yn mynd rhywfaint o’r ffordd tuag at helpu tenantiaid yng Nghymru. Rydym yn gwybod mai rhentu yw'r opsiwn gorau ar gyfer rhan fawr o'n cymdeithas, ac felly mae'n hanfodol bod y farchnad rentu yn gweithio i denantiaid.

“Mae argyfwng COVID-19 wedi dangos i ni ei bod yn hollbwysig i bobl gael diogelwch ynghylch eu cartrefi. Bydd y Bil hwn yn helpu trwy estyn y cyfnod rhybudd y mae tenantiaid yn ei gael.

“Fodd bynnag, er mwyn i’r mesurau yn y Bil weithio, mae angen i’r llysoedd weithredu’n effeithlon – gan nad yw hyn wedi’i ddatganoli, rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd pob cyfle i wneud yn siŵr bod system y llysoedd yn dwyn cymaint â phosibl o anghenion penodol Cymru i ystyriaeth, er enghraifft y newidiadau sylweddol i'r sector rhentu preifat.  

“Fodd bynnag, mae'n hanfodol i ni fonitro sut y bydd y newidiadau hyn yn gweithio'n ymarferol. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i'w hadolygu a sicrhau bod tenantiaid yn cael gwasanaeth da o dan y gyfraith.”

Ychwanegodd Rebecca Wooley, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth, Cymru:

“Rydym yn croesawu’r bil diwygio hwn a’r amddiffyniad a’r sefydlogrwydd cynyddol sy’n deillio ohono i denantiaid preifat. Am gyfnod rhy hir, mae tenantiaid preifat wedi bod yn byw mewn ansicrwydd a gobeithiwn y bydd hyn yn lleddfu rhai o'r pryderon hynny. Rydym yn awyddus i weld sut mae'r newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith ac a ydyn nhw'n gwella’r ymdeimlad o fodlonrwydd ymhlith tenantiaid y sector rhentu preifat.

“Mae’r bil yn fan cychwyn i’w groesawu’n fawr, a’n gobaith yw y bydd Llywodraeth Cymru, yn y pen draw, yn dileu troi allan heb fai yn gyfan gwbl.”

 

Mae'r Pwyllgor yn argymell bod Aelodau'r Senedd yn cefnogi egwyddorion Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) wrth y cam cyntaf hwn, ac nid yw wedi awgrymu unrhyw welliannau. Bydd Aelodau o’r Senedd yn trafod yr adroddiad nawr fel rhan o’r broses ddeddfwriaethol, a bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb.

Darllenwch yr adroddiad Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) yma