Mae sector newyddiaduraeth gadarn, amrywiol, ac er budd y cyhoedd yn hanfodol i ddemocratiaeth yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad.
Mae'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi amlinellu nifer o fesurau i sicrhau bod sawl ffynhonnell newyddion yng Nghymru er gwaethaf llai o olygyddion a mwy o rannu adnoddau wrth i bapurau newydd gyfuno.
Canfu'r Pwyllgor fod Cymru wedi dioddef yn fwy na rhannau eraill y DU yn sgil y diffyg amrywiaeth a lluosogrwydd ar draws y wlad.
Daeth y Pwyllgor i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod yn ffurfiol y dylai gefnogi newyddiaduraeth newyddion fel blaenoriaeth strategol, ac y dylai ystyried ffyrdd o roi cymorth i'r sector yng Nghymru. Un opsiwn fyddai trwy wneud defnydd mwy craff o'r gyllideb hysbysebu a hysbysu cyhoeddus, ac opsiwn arall fyddai ystyried model sy'n ariannu'n fwy uniongyrchol, efallai trwy gorff hyd braich.
Gwelwyd bod Cymru ar flaen y gad o ran y cyfryngau hyperleol, gyda chyfran fwy o ffynonellau newyddion na gweddill y DU ar sail poblogaeth. Ond er i'r Pwyllgor ganfod bod parodrwydd ac awydd i ddechrau gwefannau hyperleol, roedd yr orchwyl o'u cynnal yn dipyn mwy.
"Mae gwasg a chyfryngau sy'n rhad ac am ddim wedi bod yn arwydd o gymdeithas rydd ers peth amser," meddai Bethan Sayed AC, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
"Heb newyddiaduraeth onest ac annibynnol, ni fydd pobl yn cael gwybod yn iawn yr hyn a wneir yn eu henw ac ni chaiff llywodraethau, ac eraill mewn pŵer, eu dwyn i gyfrif am eu gweithredoedd.
"Dylai'r dirywiad mewn newyddiaduraeth newyddion fasnachol yng Nghymru fod yn bryder gennym oll felly. Yn debyg i rannau eraill o'r byd, mae cylchrediad papurau newydd Cymru wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, ac mae cylchrediad ar-lein wedi cynyddu - gan arwain at golli swyddi, cyfuno papurau newydd a chau papurau newydd.
"Nid yw Cymru ar ei phen ei hun o bell ffordd yn y dirywiad hwn mewn papurau newydd print traddodiadol. Fodd bynnag, mae cyfryngau Cymru yn llai a heb gymaint o amrywiaeth â rhannau eraill y DU, ac felly mae effaith y newidiadau hyn yn anghymesur.
"Rydym yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried pwysigrwydd gosod sector cyfryngau amrywiol fel blaenoriaeth strategol ac ymchwilio i ffyrdd o gefnogi'r sector naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol."
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 18 o argymhellion yn ei adroddiad gan gynnwys:
Y dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r cyllid o £100,000 a glustnodwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ar gyfer cynllun cystadleuol i newydd-ddyfodiaid ac i gefnogi arloesedd a chynaliadwyedd ymysg gweithredwyr cyfredol.
Y dylai Llywodraeth Cymru feithrin ac annog y sector hyperleol fel ffordd o annog newydd-ddyfodiaid i'r farchnad a chefnogi dulliau arloesol o ddarparu newyddiaduraeth newyddion lleol.
Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sefydlu hybiau newyddion hyd braich a ariennir gan ddefnyddio arian cyhoeddus, yng ngoleuni diffyg hyfywedd marchnad darpariaeth newyddion lleol mewn sawl rhan o Gymru; a
Bod cwmnïau technoleg fel Google a Facebook yn ystyried gwella eu cefnogaeth i newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru.
Darllen yr adroddiad llawn:
Ymchwiliad i Newyddiaduraeth Newyddion yng Nghymru (PDF, 1 MB)