Mae Comisiwn y Cynulliad yn chwilio am brentisiaid
31 Mai 2012
Mae Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn chwilio am brentisiaid newydd.
Mae’r Comisiwn, sef y corff sy’n gyfrifol am weinyddiaeth y Cynulliad Cenedlaethol, yn cynnig pedwar cyfle i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed mewn gwahanol rannau o feysydd gwasanaeth y ddeddfwrfa.
Byddai’r ymgeiswyr llwyddiannus hefyd yn dysgu tra’u bod yn ennill cyflog, gydag oddeutu un diwrnod bob pythefnos yn cael ei neilltuo ar gyfer hyfforddi a datblygu. Byddai hyn yn arwain at gymhwyster a gydnabyddir mewn Busnes a Gweinyddiaeth.
“Dyma’r cynllun prentisiaeth cyntaf i gael ei redeg gan Gomisiwn y Cynulliad ac mae’n gydnabyddiaeth o botensial pobl ifanc tra’i fod yn eu helpu i ddatblygu sgiliau a phrofiad,” meddai Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am staff y Cynulliad.
“I’r ymgeiswyr llwyddiannus, mae hwn yn gyfle i weithio i sefydliad sydd wrth wraidd democratiaeth yng Nghymru ac yn gyfle iddynt weld drostynt eu hunain sut mae gwaith y Cynulliad yn effeithio ar bawb yng Nghymru.”
“Mae Comisiwn y Cynulliad yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod yn gyflogwr cadarnhaol sy’n rhoi cymorth a chyfleoedd i’w staff ddatblygu a gwneud cynnydd. Dyna pam y dyfarnwyd gwobr ‘Buddsoddwyr mewn Pobl (Safon Aur)’ i ni yn 2010.”
Yn ogystal â’r pedair prentisiaeth bydd Comisiwn y Cynulliad hefyd yn cynnig lleoliadau i raddedigion yng Nghyfarwyddiaeth Busnes y Cynulliad ac yn yr adran Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Mehefin 2012. Mae rhagor o wybodaeth am y lleoliadau ar gael yma.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am weithio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yma.