Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn dweud ‘Shwmae / Su’mae’

Cyhoeddwyd 14/10/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/10/2015

 

Bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymuno yn hwyl Diwrnod Shwmae/Su'mae ar 15 Hydref, ac mae wedi paratoi cyfres o ddigwyddiadau i staff ac Aelodau'r Cynulliad sydd â gwahanol lefelau o sgiliau Cymraeg.

Trwy gydol yr wythnos bydd cyfleoedd i ddysgwyr newydd gael gweld faint o Gymraeg y gallent ei ddysgu mewn sesiwn fer, a bydd tîm cyfieithu'r Cynulliad yn rhoi cyflwyniadau ar driciau'r grefft o gyfieithu ar y pryd a chyfieithu testun.

Bydd siaradwyr Cymraeg ymysg y staff yn cael eu hannog i ddod yn fentoriaid i ddysgwyr, a bydd cyngor yn cael ei roi i'r rhai sydd am ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ond nad sydd â'r hyder i wneud hynny, efallai.

Bydd aelodau staff, Aelodau'r Cynulliad ac ymwelwyr hefyd yn cael eu hannog i ddweud 'Shwmae/Su'mae' wrth ei gilydd, ac mae'r Cynulliad hyd yn oed wedi gwneud ei fideo ei hun i gyd-fynd â'r diwrnod.

Dywedodd Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, "Rydym wrth ein bodd i gael bod yn rhan o Ddiwrnod Shwmae/Su'mae eleni".

"Mae'n briodol ddigon y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol fod yn ganolbwynt bywyd cenedlaethol Cymru, a rhan o'r ymrwymiad hwnnw yw sicrhau bod y Gymraeg yn chwarae rhan ganolog ym mywyd cyhoeddus Cymru ac yn y ffordd y mae'n cael ei llywodraethu."

Nodi y Cynulliad yw bod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog. Mae'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol yn nodi'r hyn y mae'r Cynulliad yn ei ddarparu'n ddwyieithog a'r hyn y mae'n bwriadu ei wneud yn y maes hwnnw. Cafodd y Cynllun ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cynulliad ym mis Gorffennaf 2013 ac mae'n seiliedig ar Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.

Cliciwch yma i ddod o hyd i ragor am y ffordd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithredu fel sefydliad dwyieithog.