Mae eiddo gwag yn niweidio cymunedau, a dylid gwneud rhagor i roi bywyd newydd i hen adeiladau

Cyhoeddwyd 10/10/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 09/10/2019

Mae ymchwiliad gan Bwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi edrych yn fanwl ar effaith eiddo gwag ar gymunedau, a sut y gall awdurdodau lleol weithredu i fynd i’r afael â phroblem gymhleth sy’n gofyn am adnoddau pwrpasol ac arbenigedd.

Ddydd Iau 10 Hydref, bydd John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor, yn lansio Adroddiad y Pwyllgor ar Eiddo Gwag yn y Gynhadledd Tai Fawr (One Big Housing Conference), yn Llandrindod.

Yn ei adroddiad, mae'r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer mynd i'r afael ag eiddo gwag ac mae’n gosod blaenoriaethau, amcanion a thargedau ar gyfer ei weithredu.

Er y dylai awdurdodau lleol barhau i gefnogi perchnogion i ailddefnyddio eiddo, dylent hefyd ddefnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw er mwyn cymryd camau gorfodi pan fydd trafodaethau anffurfiol yn methu. Yn ystod yr ymchwiliad, fodd bynnag, fe wnaeth y Pwyllgor ddarganfod mai pur anaml fydd awdurdodau lleol yn dewis defnyddio’r pwerau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd. Gall cymryd camau gorfodi i ailddefnyddio eiddo gwag fod yn broses hir, yn broses ddrud a biwrocrataidd, sy'n risg ariannol i awdurdodau lleol, gan nad oes sicrwydd y bydd yn llwyddiant.

Mae'r Pwyllgor yn croesawu’r cam diweddar gan Lywodraeth Cymru i sefydlu tîm penodedig i gefnogi awdurdodau lleol, ond mae'n credu bod angen cymryd rhagor o gamau.

Dywed John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau;

“Rydyn ni i gyd yn gwybod am adeiladau o’r fath yn ein cymunedau a’r niwsans y gallan nhw ei achosi. Nid yn unig y maent yn denu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn cyfrannu at ddirywiad cyffredinol yn eu cymdogaethau, ond maent hefyd yn adnodd gwerthfawr sy'n cael ei wastraffu.

“Mae gan awdurdodau lleol bwerau i ymdrin ag eiddo gwag; ond nid yw cymryd camau gorfodi yn broses syml. Mae'n cymryd llawer o amser ac nid oes sicrwydd y bydd yn llwyddiannus.

"Yn ein hadroddiad, rydym yn edrych yn fanwl ar rai o’r rhwystrau, ac yn awgrymu ffyrdd o wella’r prosesau. Gall mynd i’r afael â phroblem eiddo gwag wneud cyfraniad sylweddol at adfywio cymunedol ehangach; gall wneud ardal yn fwy deniadol a chynyddu'r stoc dai sydd ar gael. Fodd bynnag, mae'n bwysig ystyried anghenion cymunedau unigol a sicrhau bod camau gweithredu'n cael eu teilwra'n briodol."

Mae'r adroddiad yn cynnwys 13 o argymhellion, gan gynnwys y dylai Llywodraeth Cymru annog awdurdodau lleol i edrych ar effaith penodi swyddog penodedig i fod â chyfrifoldeb am eiddo gwag.

Mae gan Gyngor Sir Caerfyrddin, a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad, gyd-gysylltydd eiddo gwag pwrpasol eisoes sy'n neilltuo ei amser i fynd i'r afael â phroblem eiddo gwag. Maen nhw’n gwneud hyn drwy gyd-weithio ar draws adrannau’r awdurdod er mwyn gweithredu strategaeth unedig ar gyfer delio ag adeiladau gwag. Mae hefyd yn cynorthwyo perchnogion eiddo i ddatrys yr heriau sy’n ei harbed nhw rhag defnyddio neu werthu’r adeiladau.

Leighton Evans, Cyd-gysylltydd Eiddo Gwag Cyngor Sir Gaerfyrddin; “Mae fy rôl wedi datblygu’n eithaf sylweddol dros y blynyddoedd, lle rydym mewn gwirionedd yn darparu rhywfaint o gyngor, arweiniad a chefnogaeth fanwl i berchnogion. Rydym yn cynnig ac yn gweinyddu cymorth ariannol. Rydym yn gorfodi unrhyw beth o niwsans sylfaenol neu statudol y Ddeddf Tai hyd at hysbysiadau Deddf Tai, i orchmynion rheoli tai gwag. Rydym hefyd yn cynorthwyo pobl i ddod o hyd i gontractwyr ac asiantau adeiladu i reoli'r prosiectau mwy. Mae'r cyfrifoldeb ar draws llawer o adrannau: mae gennym gyfrifoldebau rheoli adeiladu, cynllunio, treth gyngor; mae gennym ni wasanaethau iechyd cyhoeddus, tai. A rhan o fy rôl i yw cymryd cydlynu a chydlynu gweithgaredd yr awdurdod lleol ar draws yr adrannau hynny i sicrhau ein bod yn gweithio gyda’n gilydd wrth ddelio ag adeiladau gwag.”

Bydd yr adroddiad yn awr yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru.