Mae hyrwyddo gwariant cyfrifol yn hanfodol mewn hinsawdd economaidd gaeth yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

Cyhoeddwyd 03/11/2010   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/07/2014

Mae hyrwyddo gwariant cyfrifol yn hanfodol mewn hinsawdd economaidd gaeth yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad

3 Tachwedd 2010

Mae Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad (dydd Mercher 3 Tachwedd) yn amlygu pryderon ynghylch argaeledd a safon addysg ariannol mewn ysgolion a chymunedau ledled Cymru.

Mae’r adroddiad gan grwp trawsbleidiol o Aelodau’r Cynulliad yn nodi er bod mentrau addysg ariannol ar waith, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud mwy i sicrhau eu bod yn gydlynol, yn effeithiol a'u bod yn cael eu gwarchod rhag toriadau yn yr hinsawdd economaidd gaeth.

Pwysleisia hefyd bwysigrwydd sicrhau bod plant yn gwybod digon am faterion ariannol, gan argymell bod Llywodraeth Cymru yn gwneud addysg ariannol yn rhan orfodol o addysg bersonol a chymdeithasol.

Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gadarnhaol ynghylch ysgolion yn gweithio gydag undeb credyd i ddarparu addysg ariannol i ddisgyblion, gan helpu i newid eu arferion ariannol drwy eu hannog i wario arian mewn ffordd gyfrifol.

Er mwyn annog mwy o brosiectau tebyg, mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu pwynt gwybodaeth canolog a fydd yn galluogi asiantaethau a chymunedau i ddod o hyd i bartneriaid posibl yn gyflym a datblygu cysylltiadau a phrosiectau ar y cyd.

Argymhella hefydn ymgysylltu’n well â’r gymuned ehangach, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth y cyhoedd a gwarchod a datblygu Uned Addysg Ariannol Cymru – sy’n rhan o strategaeth cynhwysiant ariannol Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Sandy Mewies AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Gall bryderon am arian gael effaith ddinistriol ar fywydau pobl a dylid bod yn ymwybodol o werth addysg ariannol gyson ac effeithiol, a hynny o oedran ifanc ymlaen.

“Yn ystod yr ymchwiliad, rydym wedi clywed am lawer o enghreifftiau cadarnhaol o addysg ariannol yn cael ei darparu mewn ysgolion, yn y gwaith ac mewn cymunedau yng Nghymru.

“Fodd bynnag, clywsom hefyd bod y ddarpariaeth o addysg ariannol yn anghyson; ac nad yw llawer o bobl yn ymgymryd ag addysg ariannol gan eu bod yn gofidio y byddant yn destun ‘stigma’ am gyfaddef y gallent reoli eu harian yn well.

“Rydym hefyd wedi clywed am bryderon y bydd nifer o raglenni addysg ariannol presennol yn cael eu diddymu neu’u torri yn ôl, yn sgil y pwysau ar arian cyhoeddus. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i wneud pob dim sydd o fewn ei phwer i osgoi toriadau o’r fath, gan fod y Pwyllgor yn credu bod addysg ariannol yn hanfodol bwysig yn yr amseroedd ariannol caeth sydd ohoni.”

Mae argymhellion eraill y Pwyllgor yn cynnwys:

  • Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynnal ymgyrch barhaus yn y cyfryngau i gynorthwyo pobl i ddeall manteision cynhwysiant ac addysg ariannol, a sut y gallant ddefnyddio gwasanaethau cymorth ac ariannol (gan gynnwys cyfrifon banc sylfaenol ac yswiriant cynnwys cartref) yn lleol, drwy weithio gyda rhanddeiliaid ar lefelau lleol a chenedlaethol.

  • Dylai Llywodraeth Cymru, drwy fforymau fel y grwp llywio cynhwysiant ariannol, ac ar y cyd â Llywodraeth y DU, annog sefydliadau ariannol i ddarparu cronfeydd i sefydliadau annibynnol fel y gallant gynnal rhaglenni addysg ariannol.

  • Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu â chyflogwyr y sectorau cyhoeddus a phreifat i’w hannog i hwyluso cyfranogiad eu gweithwyr cyflogedig mewn seminarau addysg ariannol yn y gweithle, ac wrth dderbyn adnoddau addysg ariannol.

  • Dylai Llywodraeth Cymru ymgysylltu ag awdurdodau lleol ledled Cymru i dynnu sylw at werth trawsbynciol mynd i’r afael â chynhwysiant ariannol ac addysg ariannol fel rhan o’u cyfrifoldebau statudol cyfredol. Fel rhan o hyn, byddai Llywodraeth Cymru yn annog awdurdodau a chymdeithasau tai unigol i nodi unigolion sy’n gweithio ar lefel uwch fel rhai a fyddai’n ysgwyddo’r cyfrifoldeb cyffredinol dros gynhwysiant ariannol a’r gwaith ar addysg ariannol, ar draws yr awdurdod / y gymdeithas.