Mae llyfrgelloedd yn llawer mwy na llyfrau i nifer o gymunedau yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol

Cyhoeddwyd 23/07/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/09/2014

Mae llyfrgelloedd yn darparu gwasanaethau hanfodol sydd yn mynd y tu hwnt i lyfrau, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Yn ôl y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, mae llyfrgelloedd yn cyfrannu llawer at fywyd cymunedol, gan gynnwys addysg, iechyd a lles, trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol.

Gallant hefyd bontio’r ‘rhaniad digidol’ drwy ddarparu mynediad i’r rhyngrwyd am ddim, sef rhywbeth a ddylai barhau, yn ôl y Pwyllgor.

Gan nodi twf cyffredinol yn nifer yr ymwelwyr â llyfrgelloedd Cymru, mae’r Pwyllgor yn galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i wneud mwy i ddarparu’r amrywiaeth eang o wasanaethau sydd ar gynnig.

Mae adroddiad y Pwyllgor hefyd yn cynnwys argymhellion pellach yn ymwneud a chyfleoedd posibl i godi arian y tu allan i wasanaethau hanfodol, a chydleoli, lle caiff nifer o gyfleusterau a gwasanaethau awdurdodau lleol eu cynnwys ar un safle.

Dywedodd Christine Chapman AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, “Gyda thoriadau yn parhau mewn gwariant cyhoeddus, mae’r Pwyllgor yn cydnabod bod nifer o awdurdodau lleol yn ystyried naill ai gau cyfleusterau neu gynnig llai o wasanaethau ynghyd â chymorth gan wirfoddolwyr i arbed arian.

“Rydym yn credu bod llyfrgelloedd yn chwarae rôl hanfodol mewn nifer o gymunedau, gan gyfrannu at feysydd fel addysg, iechyd a lles, trechu tlodi ac allgáu cymdeithasol.

“Mae nifer o enghreifftiau gwych yng Nghymru o sut mae awdurdodau lleol yn defnyddio cydleoli i wella’r gwasanaethau sydd ar gynnig, ac rydym yn credu y gellir dysgu o’r enghreifftiau hyn.

“Rydym hefyd yn awyddus i weld Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud mwy i hyrwyddo’r gwasanaethau hyn, yn ogystal ag ymchwilio i gyfleoedd i godi arian er mwyn diogelu’r cyfleusterau hanfodol hyn.”

Adroddaid: Llyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghyrmu

Mae rhagor o wybodaeth am yr ymchwiliad i lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru ar gael yma.