Mae’n hanfodol y gall prosiectau Cymunedau yn Gyntaf barhau – Pwyllgor y Cynulliad

Cyhoeddwyd 25/07/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/07/2017

​Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cynghorau yn nodi yr holl raglenni a gaiff eu darparu gan Cymunedau yn Gyntaf a ddylid gael eu darparu gan wasanaethau cyhoeddus eraill ac y cânt eu trosglwyddo i’r gwasanaeth cyhoeddus perthnasol cyn gynted â phosibl, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Canfu’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau hefyd ei bod wedi bod yn anodd gwneud asesiad cyffredinol o lwyddiant Cymunedau yn Gyntaf, y rhaglen trechu tlodi pymtheg mlynedd, £432 miliwn, o ganlyniad i reoli perfformiad annigonol.

Cymunedau yn Gyntaf oedd rhaglen trechu tlodi blaenllaw Llywodraeth Cymru.  Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant AC y byddai'r rhaglen yn cael ei dirwyn i ben ym mis Chwefror eleni. 

Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu bod ansicrwydd i staff a achoswyd gan y modd y gwnaed y cyhoeddiad y byddai'r rhaglen yn cael ei dirwyn i ben wedi cael effaith andwyol ar eu gwaith, ac wedi effeithio ar y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau.

Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu am ba hyd y bydd arian etifeddiaeth ar gael cyn gynted ag y bo modd.

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor, John Griffiths AC:

"I lawer o bobl, mae Cymunedau yn Gyntaf wedi cael effaith sydd wedi newid eu bywyd, ac rydym yn gwybod ei bod wedi gwneud gwaith gwych mewn cymunedau ledled Cymru.

"Rydym yn pryderu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddysgu gwersi ar gyfer gweithgareddau trechu tlodi yn y dyfodol, gan sicrhau bod cynnydd yn fesuradwy, yn seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio, a bod elfennau llwyddiannus Cymunedau yn Gyntaf, a allai gael eu cyflwyno gan gyrff cyhoeddus eraill ac sy'n cael eu gwerthfawrogi'n lleol gael eu trosglwyddo i wasanaethau cyhoeddus eraill i'w cyflawni. 

"Nid yw'r angen am y gwasanaethau hyn wedi diflannu, ond yn wynebu ansicrwydd, rydym wedi clywed bod staff Cymunedau yn Gyntaf eisoes yn gadael i fynd i swyddi eraill.  Ni fydd yn hawdd disodli eu harbenigedd a'u perthnasoedd."

Mae'r argymhellion eraill yn cynnwys:

  • Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried dileu'r rhwystrau cod post i deuluoedd gael mynediad at Dechrau'n Deg lle mae angen wedi'i nodi a chapasiti i'w cefnogi;
  • Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pob cyngor ac arweiniad i awdurdodau lleol ar gael yn ysgrifenedig i ategu'r wybodaeth a ddarperir yn bersonol neu ar lafar; a
  • Bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn glir yn y canllawiau i awdurdodau lleol y dylai cymorth cyflogadwyedd gwmpasu pob cam o'r daith cyflogaeth, gan gynnwys cefnogaeth i berson unwaith y byddant mewn gwaith.


Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2016–17 (PDF, 2 MB)